Rhaglenni S4C ar BBC iPlayer

  • Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru ac S4C wedi cyhoeddi y bydd holl raglenni S4C ar gael ar BBC iPlayer erbyn hydref flwyddyn nesaf.

Fe fydd y gwaith technegol ar y prosiect yn dechrau ar unwaith â'r bwriad o sicrhau presenoldeb S4C fel sianel lawn, yn fyw ac ar alw, ar yr iPlayer erbyn hydref 2014.

S4C fydd yr unig sianel annibynnol i ymddangos ar yr iPlayer ac mae'r datblygiad yn adlewyrchu'r bartneriaeth unigryw rhwng y sianel a'r BBC.

Rhoddwyd caniatâd i'r cynllun gan Ymddiriedolaeth y BBC ar ôl i S4C wneud cais i'r BBC yn gofyn am ymddangos fel sianel lawn gyda'i holl raglenni ar iPlayer. Y bwriad yw lansio'r gwasanaeth newydd, am gyfnod prawf o 18 mis i gychwyn, yn hydref 2014.

Mi fydd cynnwys S4C hefyd ar gael i'w ffrydio ar y gwasanaethau ar-lein ac ar-alw YouView, TV Catch-up ac YouTube.

650

Mae BBC iPlayer ar gael yn rhad ac am ddim ar dros 650 o blatfformau a dyfeisiau yn y DU.

Ym mis Mehefin eleni, derbyniodd y gwasanaeth fideo ar alw 239 miliwn o geisiadau am raglenni teledu a radio y BBC - cynnydd o 45 y cant ers Mehefin 2012.

Mae'n galluogi gwylwyr i wylio rhaglenni naill ai'n fyw neu eu gwylio ar alw lle bynnag a phryd bynnag y maen nhw'n dymuno - ar gyfrifiaduron, ffonau symudol, tabledi a setiau teledu cysylltiedig. Mae gan wylwyr yr opsiwn hefyd o lawrlwytho rhaglenni teledu ar rai dyfeisiau i'w gwylio rywbryd arall.

Fe fydd trefniadau golygyddol yn cael eu cytuno'n ffurfiol rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C cyn y lansiad.

Yn ôl Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, mae'r datblygiad yn un arwyddocaol a fydd yn sicrhau bod holl raglenni teledu a radio Cymraeg y BBC ac S4C ar gael mewn un lle.

'Hynod o bwysig'

"Mae hwn yn ddatblygiad hynod o bwysig a fydd yn sicrhau bod holl raglenni teledu Cymraeg y BBC ac S4C, yn ogystal â rhaglenni BBC Radio Cymru, ar gael yn fyw ac ar alw nid yn unig i gynulleidfaoedd yng Nghymru ond ledled y DU," meddai Sian Gwynedd.

"Mae BBC Cymru wedi ymrwymo i ehangu apêl a chyrhaeddiad cynnwys Cymraeg ar-lein ac mae'r datblygiad hwn yn cefnogi ein hawydd i wella'r ddarpariaeth i siaradwyr Cymraeg trwy ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i gynnwys sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg.

"Mewn marchnad ddigidol fyd-eang does neb yn medru gwadu'r her sy'n wynebu'r iaith Gymraeg ond trwy weithio mewn partneriaeth gydag S4C rydym yn gallu manteisio ar y tŵf anhygoel ym mhoblogrwydd a defnydd BBC iPlayer i ddod â rhaglenni Cymraeg i'r nifer mwyaf posib o wylwyr.

"Mae'n wych ein bod, trwy gydweithio agos ac adeiladol, yn medru cynnig y gwasanaeth hwn i'n cynulleidfaoedd ac mae sefydlu S4C fel yr unig sianel annibynnol ar BBC iPlayer yn adlewyrchu ein partneriaeth unigryw gyda'r sianel."

"Cyffrous iawn"

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Mae sicrhau lle i gynnwys S4C ar BBC iPlayer yn ddatblygiad cyffrous iawn.

"Mantais enfawr BBC iPlayer yw ei fod ar gael ar dros 650 o ddyfeisiau a phlatfformau yn rhad ac am ddim yn y DU - sy'n cynnig llwyfannau newydd i gynnwys gwych S4C.

"Mae hyn yn gam sylweddol arall yn ein hymdrechion fel sianel i sicrhau bod cynnwys S4C ar gael mewn cymaint â phosib o ffyrdd i gymaint â phosib o bobl.

"Mae'r cyhoeddiadau hyn yn dangos bod S4C o ddifri am sicrhau bod y Sianel ar gael mewn cymaint â phosib o ffyrdd wrth inni symud i mewn i'r oes ddigidol.

"Mae S4C yn rhedeg ei gwasanaeth ar-alw ei hun ar-lein, Clic, ac mae'r gynulleidfa'n ei ddefnyddio'n gynyddol. Ond o ran codi ymwybyddiaeth o S4C a'n rhaglenni gwych, mae'n rhaid gosod ein cynnwys ar blatfformau mawr eraill - a'r rhai sy'n tyfu hefyd wrth gwrs".

Ers ei lansio yn 2007 mae BBC iPlayer wedi addasu i gynnwys cyfresi cyfan, ffilmiau, rhaglenni radio a sianeli teledu a gorsafoedd radio byw.

Mae rhaglenni teledu Cymraeg BBC Cymru Wales ar S4C, a rhaglenni BBC Radio Cymru eisoes ar gael ar BBC iPlayer.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol