Tywydd braf yn 'hwb i dwristiaeth'
- Cyhoeddwyd

Mae tywydd braf yr haf wedi rhoi hwb i sawl rhan o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, yn ôl rhai adroddiadau.
Bu cynnydd sylweddol yn niferoedd y twristiaid yn rhai o hoff gyrchfannau Cymru yn y tywydd braf ym mis Gorffennaf.
Mae llawer o safleoedd carafanau a gwersylla hefyd yn dweud eu bod wedi profi cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr.
Fodd bynnag, nid yw wedi bod yn newyddion da i bawb. Mae nifer yr ymwelwyr wedi gostwng mewn rhai ardaloedd a dywedodd rhai gweithredwyr hunanarlwyo mai hon oedd y flwyddyn anoddaf erioed.
Cynnydd o 38%
Mae'r Clwb Gwersylla a Carafanio yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd o 38% mewn archebion ar safleoedd eu haelodau yng Nghymru'r mis diwethaf.
Ar ôl hafau gwlyb yn olynol, dywedodd y Clwb Gwersylla a Charafanio bod tywydd poeth mis Gorffennaf wedi dod â phobol "ar eu gwyliau yn eu miloedd".
Ychwanegodd eu llefarydd, Jon Dale: "Hyd yn hyn, yr ydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o archebion ar ein safleoedd yng Nghymru.
"Yn wir, ym mis Gorffennaf, gwelsom gynnydd o 38% o'i gymharu â 2012 ac mae disgwyl i'r duedd gadarnhaol i barhau."
Archebion hwyr
Dywedodd llefarydd ar ran Croeso Cymru bod y tywydd braf "yn hwb ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru" a dywedodd bod busnesau "wedi bod yn adrodd fod y tywydd wedi cael effaith gadarnhaol gydag archebion hwyr yn cael eu bachu ac ymwelwyr allan am ddiwrnod i wneud y gorau o'r heulwen ".
Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, y bu cynnydd o 10% yn nifer yr ymwelwyr i safleoedd hanesyddol sy'n cael eu rhedeg gan asiantaeth henebion Cadw ym mis Gorffennaf, o'i gymharu â'r llynedd.
Ychwanegodd: "Yn fwy na hynny, roedd yr ymwelwyr yn treulio mwy o amser ar safleoedd Cadw, o ganlyniad i well dehongli ar y safleoedd, rhaglen o ddigwyddiadau'r haf, a deunyddiau newydd a diddorol a gynlluniwyd ar gyfer teuluoedd yn yr henebion."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eu bod wedi gweld cynnydd o 20% yn nifer y bobl sy'n defnyddio ei gwefan ym mis Mehefin, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cododd y ffigur ar gyfer mis Gorffennaf hyd yn oed mwy, o 34%.
'Nod'
Dywedodd David Hardy, llefarydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: "Rydym ar darged i gyrraedd ein nod.
"Ym mhythefnos cyntaf mis Gorffennaf eleni, cawsom gynnydd o 100% o'i gymharu â'r llynedd. Ond mae hynny'n dangos i chi sut flwyddyn ofnadwy oedd y llynedd.
"Dwi'n cofio un diwrnod pan oedd 11 o bobl yma'r llynedd."
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri y bu hwb yn nifer yr ymwelwyr ar ddechrau mis Gorffennaf, sy'n gwneud iawn ar gyfer Mehefin gwlyb.
Fodd bynnag, ychwanegodd eu llefarydd: "Ar yr Wyddfa ei hun cafwyd cynnydd bach ar ddechrau mis Gorffennaf pan ddechreuodd y tywydd da, ond yn annisgwyl nid oedd y mynydd mor brysur ag y gallai pobl fod wedi disgwyl, oherwydd ein bod yn credu bod pobl wedi mynd i'r traethau. "
Ond dywedodd Adrian Greason-Walker, cyfarwyddwr gweithredol Cynghrair Twristiaeth Cymru: "Nid yw hunan-arlwyo wedi gwneud yn dda iawn, ac nid ydym yn hollol siŵr pam.
"Mae rhai gwestai yn gwneud yn dda - yn enwedig yn yr ardaloedd arfordirol - ond ymhellach i'r tir mae'n edrych fel pobl yn pasio drwy rai ardaloedd i gyrraedd yr arfordir.
"Yr wyf wedi clywed gan westai a safleoedd carafanau nad yw pobl yn gwario cymaint pan fyddan nhw'n cyrraedd yno.
"Gallai hynny fod yn gysylltiedig gyda'r economi."
A dywedodd Rachel Thomas sy'n rhentu bythynnod gwyliau: "Mae llawer o bobl yn cwyno yn y sector hunan-arlwyo.
"Dyma'r flwyddyn anoddaf i ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd4 Mai 2013
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013