Hillsborough: Merch o Gei Conna yn chwilio am dyst
- Cyhoeddwyd

Mae dynes yn ceisio dod o hyd i'r dyn geisiodd achub ei thad gafodd ei ladd yn nhrychineb Hillsborough.
Yn ôl Charlotte Hennessy o Sir y Fflint, mae yna dystiolaeth gref i awgrymu y dylid bod wedi achub 41 o'r 96 gafodd eu lladd.
Y llynedd penderfynodd yr Uchel Lys y dylid diddymu rheithfarnau marwolaeth drwy ddamwain a bod angen cynnal cwest o'r newydd.
Bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl ar ôl cael eu gwasgu cyn dechrau'r gêm gyda Nottingham Forest yng Nghwpan yr FA yn 1989.
Sant Ioan
Dywedodd Ms Hennessy o Gei Conna bod ei thad, James, yn un o'r 41 y gellid bod wedi eu hachub.
Mae hi'n ceisio dod o hyd i weithiwr Ambiwlans Urdd Sant Ioan helpodd ei thad ar y cae.
Dywedodd y byddai tystiolaeth y dyn yn bwysig mewn unrhyw gwest newydd.
Roedd hi'n chwech oed pan ddigwyddodd y drychineb.
"Maen bwysig i mi gael gwybod - fo oedd y person wnaeth geisio achub bywyd fy nhad.
"Mae o'n gwybod beth ddigwyddodd ar y cae, a'r penderfyniad i fynd â Dad i'r gampfa.
"Bydd ei dystiolaeth yn rhan bwysig o'r cwest.
Dywedodd Adroddiad Panel Hillsborough, gafodd ei gyhoeddi fis Medi diwethaf, y byddai 58 o'r dioddefwyr yn bendant neu yn fwy na thebyg wedi goroesi ar ôl 3.15pm.
Hwn oedd yr amser, yn ôl crwner y cwest gwreiddiol, pan nad oedd modd gwneud unrhyw beth i achub bywydau.
Straeon perthnasol
- 22 Mawrth 2013
- 19 Rhagfyr 2012
- 15 Ebrill 2009