Dŵr yn achosi 'difrod difrifol' yn Ysbyty Plant Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae un o benaethiaid Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi dweud bod llifogydd yn Ysbyty Plant Cymru yng Nghaerdydd fel "digwyddiad difrifol".
Bu'n rhaid i gleifion a staff adael yr ysbyty ddydd Llun oherwydd difrod gan ddŵr i'r pedwar llawr.
"Roedd timau o weithwyr yn sicrhau bod plant yn symud o'r adeilad, yn gyflym ac yn effeithiol," meddai Dr George Findlay, cyfarwyddwr clinigol y bwrdd gyda chyfrifoldeb am wasanaethau plant a menywod.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fod y staff yn gofalu am y plant yn yr Ysbyty Athrofaol tra bod gweithwyr yn asesu maint y difrod.
18 o gleifion
Oherwydd glaw trwm llifodd dŵr i mewn i'r adeilad gan amharu ar y cyflenwad trydan.
Cafodd 18 o gleifion eu heffeithio ond nid amharwyd ar wasanaethau brys na llawdriniaethau.
Mae disgwyl y bydd y plant yn dychwelyd o fewn 36 awr pan fydd yr adeilad yn ddiogel, meddai'r llefarydd.
Mae ymchwiliad i'r digwyddiad ar y gweill.
Straeon perthnasol
- 13 Hydref 2010
- 23 Gorffennaf 2010
- 30 Ionawr 2008