Cyffuriau: Carcharu dau ddyn
- Cyhoeddwyd
Cafodd dau ddyn oedd wedi chwarae rhan sylweddol wrth gyflenwi cyffuriau yn ardal Wrecsam eu carcharu am dair blynedd a dau fis.
Roedd Adam Selby a Darren Swallow wedi cyfaddef i fod â chyffuriau yn eu meddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi i eraill.
Dywedodd y barnwr, y Cofiadur Greg Bull QC y byddai'r ddau wedi eu carcharu am gyfnod hirach heblaw am y ffaith iddynt bledio yn euog yn gynnar i'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod gan Selby, 28 oed a Swallow, 25 oed, y ddau o Wrecsam, werth tua £7,500 o gocên yn eu meddiant.
Roedd yna hefyd ganabis gwerth tua £1,100.
"Rwyf yn fodlon o ran y dystiolaeth eich bod chi yn chwarae rhan sylweddol wrth ddosbarthu a chyflenwi cocên a chanabis ar y strydoedd," meddai'r barnwr.
Dywedodd John Wyn Williams, ar ran Selby, fod ei gleiant wedi bod yn gwasanaethu gyda'r fyddin am dair blynedd. Roedd wedi gadael y fyddin er mwyn helpu gofalu am ei fab oedd yn dioddef o barlys ymennydd.
Dywedodd Simon Berson ar ran Wallow, fod ei gleiant yn ddyn digon galluog oedd wedi llwyddo i weithio yn y gorffennol.