Apêl wedi damwain ffordd
- Cyhoeddwyd

Cafodd un person anafiadau difrifol.
Mae'r heddlu'n apelio am dystion ar ôl damwain ffordd ddifrifol ar Stryd Waterloo ym Mangor.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11am oherwydd adroddiad bod fan wedi mynd trwy ffenest Cymdeithas Adeiladu'r Britannia.
Cafodd un person anafiadau difrifol ac mae'r ffordd ynghau am gyfnod.