Dyn yn euog o dreisio merch ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Rydaman wedi ei gael yn euog yn Llys y Goron Abertawe o dreisio merch ifanc.
Bydd Philip Adrian Morgan, sy'n 45 oed, yn cael ei ddedfrydu ddiwedd y mis, ond mae'r barnwr wedi ei rybuddio ei fod yn wynebu o leiaf pymtheg mlynedd o dan glo.
Roedd Morgan, o'r Betws, wedi gwadu'r cyhuddiadau.
Dywedodd y Barnwr Peter Heywood y byddai'n dedfrydu Morgan ar Awst 20 ar ôl derbyn adroddiad gan y gwasanaeth prawf a fydd yn asesu a yw Morgan yn peryglu menywod ifanc.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa.