Dydd Mawrth prysur a theilwng
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth 17,813 ymweld â'r Eisteddfod ar ddydd Mawrth, y nifer mwyaf i ymweld ar ddydd Mawrth ers 2009.
Mae'n debyg bod y tywydd gwell yn rhannol gyfrifol am y ffigwr uchaf ers Eisteddfod Bala, 2009.
Er fod beirniadaeth y beirniaid yn gymysg, roedd teilyngdod yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen.
Bet Jones o Riwlas oedd yn fuddugol gyda'i nofel am ddaeargryn yn achosi anhrefn yn Ynys Môn.
Dywedodd mai'r helynt ynghylch ffracio yw sail y nofel, a bod y syniad wedi ei tharo wrth iddi ddarganfod ei hun yn sownd mewn traffig ychydig ddyddiau ar ôl daeargryn Siapan.
Dorothy Jones o Langwm oedd ddigon lwcus i dderbyn Medal Goffa Syr T H Parry-Williams.
Cyflwynir y fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Y prif ddigwyddiadau yn y pafiliwn ddydd Mercher yw seremoni'r Fedel Ryddiaith, yn ogystal â chyhoeddi enillwyr Tlws y Cerddor a Dysgwr y Flwyddyn gyda'r nos.
Mae'r rhagolwg o ran y tywydd yn edrych yn dda gyda rhagolygon o haul braf drwy gydol y dydd, gyda thymheredd yn cyrraedd rhyw 19C.