Ceidwadwyr: 'Angen adfer elfennau ysgolion gramadeg'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol
Disgrifiad o’r llun,
Fe allai'r syniad fod yn boblogaidd ymhlith Ceidwadwyr yng Nghymru a Lloegr

Mae angen adfer elfennau hen drefn yr ysgolion gramadeg, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Awgrymodd llefarydd addysg y blaid, Angela Burns, y dylid gwahanu plant yn ôl gallu yn bedair ar ddeg oed er mwyn codi safonau.

Wrth ymateb i'r alwad, mae gweinidog addysg Cymru, Huw Lewis, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi "ymrwymo i sicrhau addysg o safon i bawb".

Er nad oes ysgolion gramadeg yng Nghymru a llond dwrn ar ôl yn Lloegr, mae'r syniad o adfer yr hen drefn yn boblogaidd ymhlith aelodau'r blaid Geidwadol - er nad yw'r Prif Weinidog David Cameron o blaid.

'Cam dewr'

Awgrym Mrs Burns yw rhannu disgyblion i ddwy ffrwd, un yn academaidd ac un yn alwedigaethol, o bedair ar ddeg oed ymlaen.

Dyw hi ddim am adfer hen arholiad Eleven Plus.

"Mae'r dirywiad mewn safonau addysg yn golygu bod angen cymryd cam dewr i gyfeiriad newydd", meddai.

Fe allai'r syniad fod yn boblogaidd ymhlith Ceidwadwyr yng Nghymru a Lloegr.

'Cam gwirion'

Dywedodd, Neil Foden, Prifathro Ysgol Friars ym Mangor a chadeirydd undeb athrawon NUT Cymru, ar y Post Cyntaf: "Mae hwn yn gam gwirion gan y Ceidwadwyr.

"Does dim tystiolaeth y byddai'n gweithio. Mae pethau wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

"Yn ymarferol mewn llawer o ardaloedd, yn enwedig yn y gogledd a'r gorllewin, mae llawer o ysgolion gyda llai na 60 o blant ac ni fyddai'n ymarferol rhannu cyn lleied o blant i ddwy ffrwd."

Yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar addysg, Aled Roberts AC: "Dyw'r Torïaid ddim yn byw yn y presennol.

"Yn hytrach, maen nhw'n edrych yn ôl ar gyfnod pan gafodd llawer o blant eu diystyru yn 11 oed.

"Byddai'r cynnig hwn yn golygu y byddai plant yn cael eu diystyru yn 14 oed."

Creu cwestiynau

Dywedodd cyfarwyddwr undeb y prif athrawon, yr NAHT, Anna Brychan bod y cynllun yn creu mwy o gwestiynau nag atebion.

"Mae hwn yn ddatblygiad diddorol mewn cyd-destun Cymreig lle ma ysgolion gramadeg yn hen atgof i'r rhan fwyaf.

"Ar hyn o bryd mae'r cynlluniau yn creu mwy o gwestiynau nag atebion - mae disgyblion angen cymhwysterau mewn pynciau academaidd hefyd, fel Saesneg, Cymraeg a mathemateg. Nid ydy'n glir lle mae'r rhain yn ffitio dan y cynlluniau yma.

"Mae'r system ysgolion ramadeg yn cael ei gofio'n bositif gan y rheiny wnaeth elwa ohono; yr un system wnaeth ddifreinio nifer fawr o'n pobl ifanc."

Dywedodd Anna Brychan bod angen i system addysg roi'r cyfle gorau i bob disgybl ddysgu, ac y byddai'r NAHT yn astudio'r cynllun yn fanwl.