A55: Dau yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi eu cludo i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad ar yr A55 ddydd Mercher.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei alw am 7.58am i'r ddamwain ar y lôn ddwyreiniol yn Llaneurgain.
Aed â'r ddau, y naill yn ei dridegau a'r llall yn ei bumdegau, i Ysbyty Glan Clwyd gydag anafiadau i'w hysgwyddau.
Roedd traffig yn araf iawn rhwng Cyffordd 33 a Chyffordd 33A ac un lôn ynghau.