Damwain môr ger Rhosneigr: Apelio eto am wybodaeth

  • Cyhoeddwyd
Rhosneigr
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r heddlu'n credu bod y dyn fu farw wedi mynd i'r dŵr i geisio helpu

Mae'r heddlu yn apelio am fwy o wybodaeth ar ôl i ddyn farw ar ôl damwain yn y môr ger Rhosneigr ddydd Gwener.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod John Raymond Lawrence, 69 oed o ardal Manceinion, wedi mynd i'r dŵr i geisio helpu ei ddau fab 20 a 25 oed.

Roedd un mab mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty Gwynedd, Bangor cyn cael ei ryddhau.

Anafiadau

Cafodd y llall anafiadau i'w goesau.

Roedd adroddiadau bod dynion mewn trafferth yn y môr ychydig cyn 3pm ddydd Gwener.

Ychydig cyn 3pm ddydd Gwener cafodd Gwylwyr y Glannau o Gaergybi eu galw i Draeth Llydan yn ogystal â'r gwasanaeth ambiwlans a hofrennydd yr awyrlu.

Dywedodd y Sarjant Andy McGregor o Heddlu'r Gogledd: "Er nad ydym yn trin y digwyddiad fel un amheus, rydym yn erfyn ar unrhyw un yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â ni er mwyn inni gael darlun lawn o'r hyn ddigwyddodd".

Mae Crwner Gogledd Orllewin Cymru Coroner Dewi Pritchard-Jones wedi dechrau ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol