Cerddwraig yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae menyw, aeth yn anymwybodol pan oedd yn cerdded ar Yr Wyddfa nos Fawrth, yn yr ysbyty.
Roedd hi ar lwybr y Pyg ar uchder o 1,000 o droedfeddi.
Hofrennydd o Ganolfan Awyrlu'r Fali aeth â hi i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Does dim manylion am ei chyflwr eto.