Gyrrwr yn euog o achosi marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr, oedd yn euog o achosi marwolaeth ffrind 32 oed drwy yrru'n ddiofal, wedi ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis.
Yn Llys y Goron Caernarfon roedd Aled Williams, 22 oed o Lanfaethlu, Ynys Môn, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth Philip Pilbeam ger Llanfaethlu ar Fawrth 2.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd.
Clywodd y llys fod Mr Pilbeam wedi chwarae i Glwb Pêl-droed Cemais.
'Chwalu'
Roedd wedi bod yn gynorthwy-ydd yn y caffi yn archfarchnad Morrisons yng Nghaergybi.
Mewn datganiad i'r llys dywedodd y teulu fod eu bywyd "wedi ei chwalu oherwydd marwolaeth ddiangen".
Dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC wrth y diffynnydd: "Y ffaith amdani yw eich bod wedi diota ac wedi colli rheolaeth ar droad yn y ffordd.
'Unwaith eto'
"Mi geisioch chi gywiro'r sefyllfa cyn i'r car gyrraedd ymyl y ffordd a throi drosodd.
"Unwaith eto mae bywyd rhywun wedi ei golli am fod dyn ifanc wedi diota a cholli rheolaeth ar gerbyd oedd yn cynnwys nifer o deithwyr.
"Mae'r ffaith mai eich ffrind ydoedd yn eironi chwerw a bydd rhaid i chi ddygymod â hyn am weddill eich bywyd."