Galw am angorfa fwy mewn porthladd

  • Cyhoeddwyd
Llong deithioFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Daeth 23,000 o deithwyr i Gymru yn 2011 ond mae'r llywodraeth eisiau cynyddu'r nifer

Mae angen angorfa fwy ym mhorthladd Aberdaugleddau i ddenu llongau teithio mawr i Gymru, yn ôl y rheolwyr.

Ar hyn o bryd ni all y porthladd ddelio â llongau sy'n cario mwy na 1,200 o deithwyr tra bod llongau gyda 3,000 o deithwyr yn gallu mynd i Gaergybi yng ngogledd Cymru.

Mae llongau o'r Unol Daleithiau a'r Almaen wedi ymweld ag Aberdaugleddau eleni ond mae'r rheolwyr eisiau ehangu'r porthladd i ddenu mwy o longau gyda mwy o ymwelwyr.

Mae Cruise Wales, sy'n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru, wedi dweud ei fod am gynyddu nifer y llongau teithio sy'n dod i Gymru o 25% y flwyddyn ac mae disgwyl i dros 38,000 o deithwyr ymweld â Chymru'r flwyddyn nesaf.

23,000

Yn 2011 daeth 23,000 o deithwyr i Gymru ar 27 o longau.

Daeth chwech o longau i Aberdaugleddau, tra bod 14 wedi teithio i borthladd Caergybi.

Ond mae adroddiad Cruise Wales yn dangos bod Corc a Dulyn yn Iwerddon yn denu 100 o longau'r flwyddyn.

Mae Swyddog Datblygu Porthladd Aberdaugleddau, Sue Blanchard-Williams, yn credu bod angen angorfa fwy.

"Mae angorfa fechan iawn yn Aberdaugleddau felly mae unrhyw longau dros faint penodol yn gorfod angori ymhellach allan ac mae'r teithwyr yn defnyddio llong lai i gyrraedd y lan," meddai.

"Y cynllun hirdymor yw cael angorfa fwy ac rydym yn gweithio ar ffyrdd o wneud hynny."

Dywedodd fod denu llongau mwy i'r dref yn bwysig i'r economi leol.

"Mae'n denu pobl i'r siopau, mae'r ymwelwyr yn gwario, mae'r llongau yn gwario gan eu bod nhw angen tanwydd a nwyddau.

"Ac mae'r llongau mawr sy'n mynd i Gaergybi yn cario 3,000 o deithwyr. Ni fyddai hynny'n ymarferol i Aberdaugleddau heb yr angorfa fwy."

Seilwaith

Mae swyddogion wedi dweud bod angen gwella seilwaith y porthladd.

"Yn sicr, hoffwn i weld mwy o longau teithio yn dod i Gymru," meddai Mrs Blanchard-Williams.

"Ond cyn i ni gael seilwaith gwell byddwn yn aros yn ein hunfan.

"Mae cwmnïau llongau yn edrych am gyfleusterau angori. Dylai Llywodraeth Cymru ein helpu ni i wneud hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Cruise Wales, gyda Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i gynyddu nifer y llongau ac ymwelwyr sy'n dod i borthladdoedd Cymru i hybu economïau lleol ac mae'n gweithio gyda phartneriaid i geisio gweithredu hynny."