Cefnogwyr Y Barri'n mynd i'r Uchel Lys
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch cefnogwyr clwb pêl-droed Y Barri i gael ail-ymuno â Chynghrair Cymru wedi mynd i'r Uchel Lys.
Mewn gwrandawiad yng Nghaerdydd, dadleuodd tîm cyfreithiol Barry Town United, y clwb newydd a ffurfiwyd gan gefnogwyr, fod hawl ganddyn nhw i chwarae yn y cynghrair gan eu bod yn cwrdd â gofynion aelodaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Yn ôl bar-gyfreithiwr y clwb, Jonathan Crystal, doedd cyn berchennog Barry Town ,Stuart Lovering ddim wedi bod yn rhan o redeg y tîm am ddau dymor cyn iddo benderfynu tynnu'r clwb allan o Gynghrair Cymru ym mis Mai.
Felly dywedodd na ddylai'r Gymdeithas fod wedi derbyn y cais, gan nad oedd cwmni cyfyngedig Barry Town AFC Ltd ddim mewn gwirionedd yn cynrychioli'r clwb pêl-droed.
Dadleuodd hefyd y byddai Barry Town United yn chwarae ar yr un cae yn ystod y tymor nesaf, dan yr un brydles, gyda'r un rheolwr, a'r un chwaraewyr, o flaen yr un cefnogwyr, gyda'r biliau a'r ffioedd yn cael eu talu gan yr un bobl.
Felly, dywedodd, Barry Town United yw'r clwb sy'n aelod o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, nid cwmni Stuart Lovering.
Honnodd fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi trin Barry Town United fel aelodau yn ystod y ddau dymor blaenorol, a'r corff llywodraethol wedi derbyn eu harian yn ystod y cyfnod hwnnw.
Roedd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Jonathan Ford, a'r llywydd Phil Pritchard yn bresennol yn y llys ddydd Mercher.
Dywedodd eu cyfreithiwr Nick de Marco eu bod am i Barry Town United ymuno â'r system o gynghreiriau yng Nghymru, ond ar lefel is.
Ychwanegodd y byddai'r Gymdeithas yn cefnogi cais gan Barry Town United i ymuno â'r prif gynghrair yn y de, sef un gris yn is na Chynghrair Cymru.
Mae'r Gymdeithas yn dadlau ei fod yn naturiol ar y lefel yma i gefnogwyr dalu am weithgareddau'r clwb, ond nad oedd hynny yn rhoi unrhyw hawl cyfreithiol yn nhermau bod yn gyfrifol am y clwb.
Mae disgwyl i'r barnwr gyhoeddi ei benderfyniad ddydd Gwener.
The judge is due to give his judgement on Friday afternoon.
Straeon perthnasol
- 9 Gorffennaf 2013
- 14 Mehefin 2013