Angladd milwr a fu farw ar y Bannau
- Cyhoeddwyd

Bydd angladd milwr a fu farw tra ar gwrs hyfforddi'r SAS ym Mannau Brycheiniog yn cael ei gynnal ddydd Iau.
Roedd Craig Roberts o Fae Penrhyn yng Nghonwy un o dri a fu farw.
Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Llandudno am 1.45pm.
Fe wnaeth yr is-gorporal a milwr arall Edward Mayer, 31 oed, farw ar ddiwrnod y cwrs hyfforddi ar Orffennaf 13.
Bu farw trydydd milwr, Corporal James Dunsby, ar Orffennaf 30.
Bydd cwest i'w farwolaeth ef yn cael ei agor yn Aberdâr ddydd Iau.
29.5C
Roedd y tri milwr o aelodau o'r fyddin diriogaethol ac yn ceisio ymuno gyda'r SAS tiriogaethol.
Roedd y dynion ar daith 40 milltir yn y Bannau ar Orffennaf 13, gyda thymheredd yn cyrraedd 29.5C (85F).
Bu farw'r is-gorporal Roberts am 5.15 pm ar fynydd Pen y Fan. Dair awr yn ddiweddarach bu farw Mr Maher yn ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr.
Roedd yr is-gorporal wedi bod yn aelod o'r Fyddin Diriogaethol am bum mlynedd.
Cafodd cwest i'w farwolaeth ei agor a'i ohirio yn Aberhonddu fis diwethaf.
Straeon perthnasol
- 31 Gorffennaf 2013
- 30 Gorffennaf 2013
- 15 Gorffennaf 2013
- 24 Gorffennaf 2013