Ieuan Wyn yw Prif Gerddor yr ŵyl
- Cyhoeddwyd

Ieuan Wyn o Gaerdydd yw enillydd cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau.
Roedd gofyn am ddarn corawl digyfeiliant seciwlar rhwng pedwar a saith munud o hyd.
Ganwyd Ieuan Wyn yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
Ar ôl derbyn ei addysg uwchradd yn ysgolion Plasmawr a Glantaf, symudodd i Fangor i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol.
Wedi hynny, addysgwyd ef ymhellach ar gwrs M.Sc. Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru.
Yn ogystal â derbyn Tlws y Cerddor, sydd yn rhoddedig gan Urdd Cerddoriaeth Cymru , mae'r enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £500 sydd yn cael ei rhoi gan Gymdeithas Gorawl Dinbych.
Prydferth
Hefyd mae yna ysgoloriaeth gwerth £2,000 gan yr Eisteddfod Genedlaethol i hyrwyddo gyrfa'r cyfansoddwr buddugol.
Fe wnaeth wyth ymgeisio am y Tlws.
Roedd y beirniaid Sioned James ac Owain Llwyd yn cytuno fod gwaith Fi - Ieuan Wyn - yn haeddu'r wobr.
Yn ôl y beirniaid roedd cyfansoddwr wedi dewis alaw syml a phrydferth wedi'i phlethu â harmonïau soniarus a hudol.
Meddai'r beirniaid: "Mae natur y darn yn gweddu i unrhyw gôr amatur cyfoes ac mae'n ddarn gafaelgar o'r bar cyntaf.
"Er yn syml ar yr olwg gyntaf, mae'r harmonïau'n gyfoethog ac mae dynameg amrywiol y darn yn gofyn am gryn ddisgyblaeth lleisiol.
Côr Caerdydd
"Ceir uchafbwynt naturiol ac effeithiol, ond efallai nad yw'r diweddglo yr un mor drawiadol â chyffyrddiadau eraill yn y gwaith. "
Ers cwblhau ei addysg, mae wedi bod yn gweithio fel recordydd sain i gwmni adnoddau 'Gorilla' yng Nghaerdydd.
Mae o wedi trefnu nifer o ganeuon i'w darlledu ar Cyw a Stwnsh ar S4C.
Dros y blynyddoedd, mae Ieuan hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru dair gwaith gan gynnwys ennill y drydedd wobr yn 2008
Mae'n aelod o Gôr Caerdydd ers blynyddoedd a thrwy hynny y cafodd y cyfle cyntaf i drefnu ac ysgrifennu gweithiau corawl.
Yn ddiweddar, cafodd gomisiwn i ysgrifennu darn gwreiddiol ar gyfer y côr; mae'r darn 'Caerdydd' bellach i'w glywed ar gryno-ddisg newydd y côr a chafodd ei berfformio gan Aelwyd y Waun Ddyfal yng Nghystadleuaeth Côr Cymru 2013.
Straeon perthnasol
- 8 Awst 2013