Arestio pedwar wedi marwolaeth beiciwr
- Cyhoeddwyd

Mae'r Heddlu wedi arestio pedwar o bobl ar amheuaeth o lofruddiaeth
Mae Heddlu Gwent yn trin marwolaeth beiciwr dyn 63 oed fel achos o lofruddiaeth.
Bu farw John Reeder o Bont-y-pŵl wedi digwyddiad ar Stryd George, Pontnewynydd, yn y dref fore Mercher.
Aed ag ef i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben.
Mae'r heddlu wedi arestio pedwar o bobl - tri dyn 18, 19 a 23 oed ac un fenyw 19 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae ditectifs yn gofyn i unrhyw un a welodd Mr Reeder ar gefn beic i gysylltu â nhw.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol