Twyll: 94 o yrwyr yn colli eu trwyddedau
- Cyhoeddwyd

Mae trwyddedau gyrru yn cael eu tynnu oddi ar 94 o bobl yn ardal Caerdydd ar ôl i lys gael cyfieithydd o China yn euog o roi atebion i ymgeiswyr yn ystod eu harholiadau theori.
Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru wrthi'n dileu 94 o brofion theori a gafwyd drwy dwyll.
Fe gafodd Allyson Ng, o Fryste, ei charcharu am flwyddyn ar ôl pledio'n euog yn Llys y Goron Caerdydd i gynllwynio i dwyllo'r asiantaeth.
Ers 2009 mae hi wedi cyfieithu mewn 123 o brofion theori, ac mae'r asiantaeth wrthi'n dileu 94 ohonynt.
Roedd y mwyafrif yng Nghaerdydd, ond roedd nifer fach yn Birmingham.
Roedd hi'n codi £110 y tro am gyfieithu, ond dechreuodd yr asiantaeth amau ar ôl cynnydd mawr yn nifer eu cwsmeriaid yn ail hanner 2011.
Bydd unrhyw yrwyr y mae eu trwydded yn cael eu dileu oherwydd hyn yn gorfod ail gymryd y prawf theori.