Saethu: Achos wedi ei gyfeirio i'r IPCC
- Cyhoeddwyd
Casnewydd
Mae achos wedi ei gyfeirio i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi i fenyw farw a dyn gael ei anafu'n ddifrifol.
Cafodd plismyn arfog eu galw i Seabreeze Avenue oddi ar Stryd Willenhall yng Nghasnewydd am 8.45 fore Iau.
Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw menyw 46 oed.
Mae'r dyn 49 oed yn cael llawdriniaeth.
Credir nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â'r digwyddiad ac roedd y ddau yn adnabod ei gilydd, meddai'r heddlu.
Roedd y ddau wedi bod yn briod ond wedi gwahanu.
Ymchwiliad
Cafwyd hyd i wn ar y safle, ac mae'r Heddlu wedi cau Seabreeze Avenue a Stryd Willenhall tra bod ymchwiliad fforensig yn parhau.
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd y ddau ar hyn o bryd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Huw Nicholas: "Mae hwn yn achos trasig ac ein blaenoriaeth yw rhoi'r gefnogaeth briodol i deuluoedd rheiny sydd yn rhan ohono, ac ymchwilio i ddarganfod beth ddigwyddodd y bore yma."
"Gallaf ddweud bod y ddau wedi bod mewn perthynas a oedd wedi denu sylw'r heddlu. Am y rheswm yma rydym ni wedi cyfeirio'r mater i'r IPCC."
Tyst
Mae Sam Williams, 33, yn byw ar Seabreeze Avenue, ac roedd yn un o'r cyntaf ar y safle ddydd Iau.
"Ychydig cyn 9 o'r gloch clywais ergyd. Roeddwn i'n meddwl mai car yn tanio'n ol oedd o.
"Dechreuais fynd i lawr y grisiau ac roedd fy mhartner yn mynd allan a clywais ergyd arall.
"Yna clywais hi'n sgrechian. Roedd hi ar y ffon gyda'r Heddlu."
Aeth Mr Williams at y ceir a gwelodd dau berson ar lawr.
"Gwelais y dyn ar y llawr ac roedd o'n anadlu, ond roedd o mewn cyflwr ofnadwy. Roedd y ddynes ar ei ffrynt ac roedd yn edrych fel ergyd agos.
"Roedd yna wn a dau getrisen ar y llawr.
"Dydy o heb fy nharo i eto."
'Anarferol'
Dywedodd Victoria Neill, 26 oed, ei bod wedi clywed y saethu.
"Gwelais ddau berson yn gorwedd yn y stryd y naill ochr a'r llall i gar oedd wedi ei barcio yng nghanol y stryd".
"Roeddwn i'n meddwl mai dau ddyn oedden nhw, ond doeddwn i methu gweld yn iawn, roedden nhw'n wynebu'r llawr."
"Roedd drysau'r car a'r bŵt ar agor, oedd yn anarferol."
Mae Phil Passey, 30, yn byw ar y stryd.
"Dydych chi ddim yn disgwyl dod oddi ar y brif ffordd a gweld yr heddlu.
"Mae hi'n ddistaw iawn yma, does byth unrhyw drwbwl.
"Mae wedi digwydd yn agos iawn i fy nhŷ i. Mae'n frawychus."