Gormod yn digwydd ar y Maes nos Wener?
- Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal cyfarfod brys ddydd Iau i drafod trefniadau ar gyfer y Maes nos Wener.
Mae disgwyl miloedd lawer ar y safle wrth i Edward H Dafis gynnal eu perfformiad ola' erioed, a hynny ar y Llwyfan Perfformio ar y Maes. Ar yr un pryd, bydd Stomp y Beirdd yn cael ei gynnal a bydd y Pafiliwn yn brysur gyda nifer o gystadlaethau corawl.
Mynnodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, nad oeddan nhw'n poeni am y sefyllfa:
"Mae ardal y Llwyfan Perfformio'n dal 4,000 o bobl yn hawdd, heb wneud dim newidiadau. Ond mi fyddwn ni'n cyfarfod heddiw i weld be' arall fedra' ni wneud.
"Dydan ni ddim yn poeni, ond mae'n rhaid paratoi fel ar gyfer pob dim, ac edrych ar bob mathau o bethau fel y tywydd ac ati.
Nid yn unig fydd hi'n brysur ar y Maes, ond mae yna nifer o gigs yn cael eu cynnal yn nhre' Dinbych nos Wener hefyd, gan gynnwys Bryn Fôn ac Al Lewis.
Mae gwerthiant tocynnau'r Stomp ar i lawr yn sylweddol o'i gymharu â'r arfer.
Roedd trefnydd y digwyddiad, Geraint Edwards o Lenyddiaeth Cymru, yn cydnabod bod perfformiad Edward H Dafis yn amlwg wedi amharu ar y trefniadau.
Cadarnhawyd hefyd bod lleoliad y Stomp wedi'i symud o'r Babell Lên i'r Pagoda oherwydd pryderon am sŵn yn cario o'r Llwyfan Perfformio.
"Mae'r penderfyniad wedi'i wneud rwan, 'does dim byd allwn ni wneud. Ond 'da ni'n edrych 'mlaen yr un fath.
"Y fantais o fod yn y Pagoda ydy bydd y gynulleidfa'n llawer agosach at y beirdd, wrth gwrs. Mi fydd 'na awyrgylch fwy croesawgar, agos atoch chi, dwi'n gobeithio."
Cadarnhaodd bod gwerthiant tocynnau ar gyfer y Stomp tipyn yn is na'r arfer.
"Mae'r sefyllfa wedi cael effaith ar werthiant tocynnau. Ond mae'r amserlen wedi'i chadarnhau rwan.
"Mae'r rhai fydd yn gwylio Edward H yn rhai fyddai fel arfer yn mynychu'r Stomp hefyd.
"Ond dwi eisiau gweld y noson orau fedra' ni gyflwyno rwan. Dwi'n ffyddiog y bydd y beirdd on form. Efallai bydd y cyfan yn agosach at yr hen naws.
"Mae'n hwyr yn y dydd i newid pethau rwan. Ond ella bod hyn yn ein hannog ni i ystyried gweddnewid elfennau o'r Stomp ar gyfer Llanelli blwyddyn nesa' - efallai newid lleoliad neu rhywbeth. Ond mae hynny'n rywbeth i'w drafod eto."