Protest dros 'chwarae yn Gymraeg'
- Cyhoeddwyd

Mae protest wedi cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod i alw am ehangu darpariaeth hamdden drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd yn trefnu'r digwyddiad er mwyn pwysleisio eu cred y dylai pawb sy'n dymuno gwneud gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg gael gwneud hynny.
Maen nhw'n cwyno nad yw hynny wastad yn bosib a bod anghysondeb yn bodoli rhwng gwahanol ardaloedd, gyda rhai gweithgareddau Cymraeg i'w cael mewn rhai ardaloedd ond nid mewn rhai eraill.
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn llunio safonau fydd yn diffinio dyletswydd sefydliadau i alluogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Anghysondeb
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dydy bron i hanner y cynghorau ddim yn darparu gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys rhai mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o blant yn dysgu'r iaith.
Cwyn arall yw'r anghysondeb sy'n bodoli o ran darpariaeth gyda'r gymdeithas yn nodi enghreifftiau o blant sy'n medru cael gwersi dawnsio Cymraeg ym Merthyr ond nid yn Aberystwyth.
Sian Howys yw llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac mae hi'n bendant fod angen rhoi'r cyfle i blant ddefnyddio'r Gymraeg wrth gael hwyl er mwyn sicrhau dyfodol yr iaith.
Dywedodd: "Mae Carwyn Jones yn mynd ymlaen ac ymlaen am y ffaith ei fod yn gweld dyfodol y Gymraeg yn nwylo plant a phobl ifanc. Mae'n honni bod rhyw resymau dirgel tu ôl i ddiffyg defnydd yr iaith ymysg pobl ifanc.
"Wel, does dim amheuaeth bod y diffyg yna yn rhannol oherwydd eu bod yn gweld yr iaith fel rhywbeth i'r ysgol yn unig.
"Yn nwylo Carwyn Jones mae 'na gyfle euraidd i newid y sefyllfa trwy'r safonau iaith newydd gan osod yr hawl i weithgareddau hamdden yn Gymraeg yn y rheoliadau newydd.
"Galle fe ddatgan 'fory ei fod e am gynnwys yr hawl yna yn y safonau. Os yw e o ddifrif am y Gymraeg, dyle fe wneud hynny'n syth."
Gêm bêl-droed
Hefyd yn siarad yn ystod y digwyddiad ar y maes roedd Gerallt Lyall sy'n gweithio i Fenter Iaith Sir Ddinbych.
Siaradodd am y pwysigrwydd o "normaleiddio" y defnydd o'r iaith tu allan i'r ysgol a dywedodd bod angen "ehangu'r cyfloedd sydd ar gael."
Wedi i Mr Lyall siarad fe orymdeithiodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith i babell Llywodraeth Cymru, lle cafwyd 'gêm bel-droed' er mwyn tynnu sylw at y mater.
Ddydd Llun fe wnaeth yr Aelodau Cynulliad Keith Davies (Llafur), Elin Jones (Plaid Cymru) ac Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol) arwyddo dogfen yn galw am gynnwys hawliau clir i siaradwyr Cymraeg yn y safonau iaith.
Byddai hynny yn gosod dyletswydd ar gyrff a chwmnïau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - gan gynnwys gwasanaethau hamdden.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod plant yn cael cyfle i ddefnyddio Cymraeg yn eu bywydau bob dydd, yn cynnwys mewn gweithgareddau hamdden ac rydym yn annog pob mudiad i sicrhau bod y Gymraeg ar gael."
"Mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn barod yn y maes yma. Mae'r Urdd er enghraifft wedi rhoi cyfleoedd i blant wneud chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg am sawl blwyddyn, gyda'r £250,000 o gyllid gan Chwaraeon Cymru yn datblygu'r cyfleoedd yma ymhellach."
Mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd gweithgareddau hamdden yn cael eu hystyried fel rhan o ymgynghoriad ar safonau iaith.
Straeon perthnasol
- 5 Awst 2013
- 16 Mai 2013