Tlws y Cerddor: 'Geiriau mor bwysig'
- Cyhoeddwyd

Mae enillydd Tlws y Cerddor eleni, Ieuan Wyn, yn dweud mai'r peth anoddaf am gyfansoddi'r gwaith buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau oedd "darganfod geiriau" i ysgrifennu cerddoriaeth iddynt.
"Mae'n rhywbeth sydd mor bwysig i'r gerddoriaeth," meddai wedi iddo gipio'r wobr yn y Pafiliwn nos Fercher.
Dywedodd iddo bori trwy lyfrau am yn hir cyn dewis geiriau'r bardd Myrddin ap Dafydd yn y diwedd.
Dyma'r tro cynta' iddo gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ond mae wedi dod yn agos at y brig ar bedwar achlysur yn Eisteddfod yr Urdd.
Roedd y beirniaid, Sioned James ac Owain Llwyd, yn cytuno fod gwaith 'Fi' - Ieuan Wyn - yn haeddu'r wobr.
Yn ôl y beirniaid, roedd y cyfansoddwr wedi dewis alaw syml a phrydferth wedi'i phlethu â harmonïau soniarus a hudol.
"Rwyf wrth fy modd 'mod i wedi ennill yma yn Ninbych eleni," meddai. "Dwi'n dal methu cael dros y sioc."
Bu Ieuan yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Cafodd ei eni yng Nghaerdydd a'i fagu yng Nghaerfyrddin. Mae bellach yn byw yn ardal Grangetown yn y brifddinas.
Straeon perthnasol
- 7 Awst 2013