Casnewydd i chwarae West Brom
- Cyhoeddwyd

Casnewydd yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Brighton
Gêm atyniadol yn erbyn West Bromwich Albion o'r uwch gynghrair yw'r wobr i Gasnewydd ar ôl maeddu Brighton o'r bencampwriaeth yn rownd gyntaf Cwpan Capital One nos Fawrth.
Bydd y gêm yn yr ail rownd yn cael ei chwarae yn West Brom yn yr wythnos yn dechrau 26 Awst.
Cafodd Casnewydd ddechrau da i'r tymor yn yr Ail Gynghrair ddydd Sadwrn diwethaf gyda buddugoliaeth o 4-1 dros Accrington Stanley.
Yn eu gêm gyntaf yn y Gynghrair mewn 25 o flynyddoedd, fe wnaeth Casnewydd ennill diolch i goliau gan Harry Worley, Christian Jolley a Chris Zebroski.
Straeon perthnasol
- 7 Awst 2013
- 3 Awst 2013
- 3 Awst 2013
- 28 Gorffennaf 2013