Ymchwiliad i farwolaeth trydydd milwr

  • Cyhoeddwyd
Corporal James Dunsby
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw'r Corporal James Dunsby bythefnos wedi ymarferiad ar Fannau Brycheiniog

Mae crwner wedi clywed y bu farw milwr wrth gefn wedi i'w organau fethu, bythefnos ar ôl ymarferiad ar Fannau Brycheiniog.

Roedd y Corporal James Dunsby yn un o bum milwr oedd wedi llewygu yn ystod y tywydd poeth fis Gorffennaf.

Dywedodd y crwner Louise Hunt mewn gwrandawiad yn Aberdâr y byddai'r ddeddf hawliau dynol yn chwarae "rhan bwysig" yn yr ymchwiliad i'w farwolaeth, ac fe gafodd y gwrandawiad ei ohirio tan fis Medi.

James Dunsby, 31, oedd y trydydd milwr i farw wedi'r ymarferiad ar 13eg o Orffennaf.

Dywedwyd yn y gwrandawiad fod archwiliad post mortem cychwynnol wedi casglu ei fod wedi marw o fethiant nifer o'i organau bythefnos yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Pan gafodd parafeddygon eu galw i Storey Arms, roedd yr Isgorporal Craig Roberts eisoes wedi marw, ac roedd pedwar milwr arall wedi llewygu ar fynydd Penyfan.

Aed â'r Trooper Eddie Maher a'r Corporal Dunsby i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Bu farw Mr Maher deirawr yn ddiweddarach ac roedd y Corporal Dunsby mewn cyflwr difrifol ar beiriant cynnal bywyd.

Cafodd ei drosglwyddo i ysbyty yn Birmingham ble bu farw ar Orffennaf 30.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Carole Williams o Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn disgwyl adroddiad pellach gan batholegydd yn achos y Corporal Dunsby.

Ymchwiliad

Mae'r ymchwiliad i farwolaeth y milwyr yn cael ei arwain gan Heddlu Dyfed-Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Dywedodd y crwner y byddai'r ymchwiliad i'r tair marwolaeth yn cael ei gynnal gan ystyried y ddeddf hawliau dynol.

Dywedodd: "Mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i ddiogelu bywyd unigolyn...

"Bydd unrhyw ddyfarniad yn ymgorffori methiannau os yna rai yn cael eu hadnabod."

Bydd y gwrandawiad yn parhau ar 3 Medi. Mae disgwyl y bydd aelodau'r lluoedd arfog yn rhoi tystiolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae'r fyddin yn cydweithio'n llawn gyda'r ymchwiliad hwn. Byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach tan ei fod wedi ei gwblhau."