Abertawe yn cyrraedd y rownd nesaf
- Cyhoeddwyd

Mae Abertawe wedi cyrraedd rownd nesaf Cynghrair Ewropa, wedi gêm gyfartal yn erbyn Malmo nos Iau.
Roedd Abertawe ar y blaen o 4-0 wedi'r cymal cyntaf wythnos yn ôl, ac roedd gêm ddi-sgôr yn ddigon i sicrhau lle'r Elyrch yn y rowndiau nesaf.
Roedd Michael Laudrup wedi newid saith o'r tîm rwydodd bedair wythnos ddiwethaf, ond roedd hi'n berfformiad cyfforddus yn Stadiwm Swedbank.
Cafodd Jose Canas ac Alejandro Pozuelo ddechrau eu gemau cyntaf i Abertawe, tra bod partneriaeth Michu a Bony yn parhau i ymosod i'r Elyrch.
Prin oedd y cyfleoedd yr hanner cyntaf, Pawel Cibicki gafodd siawns orau'r tîm cartref yn gynnar yn yr hanner, ond methodd a rhoi dechrau da i'w dîm.
Cafodd ergyd Jonathan de Guzman ei glirio oddi ar linell y gôl, a phenderfynodd y llumanwr bod Wilfried Bony wedi camsefyll wrth rwydo yn yr hanner cyntaf.
Aeth Michu a Wayne Routledge hefyd yn agos at roi Abertawe ymhellach ar y blaen.
Roedd yr ail hanner yn ddigon difflach, gyda chamgymeriadau gan y ddau dîm.
Bydd yr enwau yn cael eu tynnu o'r het ar gyfer y rownd nesaf ddydd Gwener, pan fydd chwe grwp yn cael eu creu ar gyfer cam olaf y rowndiau rhagbrofol.
Bydd Michael Laudrup nawr yn edrych ymlaen at gêm gyntaf tymor yr Uwch Gynghrair yn erbyn Manchester United ar Awst 17eg.
Malmo 0 - 0 Abertawe
Abertawe yn ennill 4-0 ar gyfanswm goliau
Straeon perthnasol
- 1 Awst 2013