Prifysgol yn lansio Adduned Cymru

  • Cyhoeddwyd
Llun
Disgrifiad o’r llun,
Arwel Ellis Owen a Helgard Krauseo Brifysgol Cymru a Dafydd Johnston o'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi menter ar gyfer diogelu nifer o wasanaethau traddodiadol sydd a chysylltiadau a'r brifysgol.

Adduned Cymru yw enw'r fenter newydd a bydd yn ariannu nifer o gyrff elusennol fydd yn sicrhau dyfodol y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Geiriadur Prifysgol Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gregynog.

Cyhoeddodd y brifysgol y byddent hefyd yn sefydlu Ymddiriedolaeth Prifysgolion Cymru, corff fydd sicrhau bod arian mae'r brifysgol wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd drwy rodd (£5.5m) yn cael ei wario yn y ffordd roedd y sawl oedd yn rhoi'r arian yn ddymuno.

Bydd yr ymddiriedolaeth hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu gwaddol Cronfa Eglwysi Cymru.

'Cyfraniad eithriadol'

Wrth gyhoeddi'r newyddion ar Faes yr Eisteddfod Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, is-ganghellor Prifysgol Cymru: "Mae Prifysgol Cymru yn frand cryf. Mae iddi hanes hir a balch yn dyddio'n ôl i 1893 ac mae wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'r sector addysg uwch. Fodd bynnag, daeth yn bryd newid y strwythur.

"Bydd creu Adduned Cymru yn sicrhau bod y Brifysgol yn ffyddlon i'w gwerthoedd craidd. Bydd y cyrff elusennol newydd yn cefnogi amrywiaeth o fentrau academaidd a diwylliannol sy'n adlewyrchu elfennau gorau hanes a threftadaeth Prifysgol Cymru.

"O fewn cyfnod o newid trawsffurfiol i addysg uwch yng Nghymru, mae Adduned Cymru yn atgyfnerthu ymrwymiad clir i ddiogelu amrywiaeth o asedau diwylliannol ac academaidd i genedlaethau'r dyfodol a bydd yn gwneud cyfraniad pwysig i ddiwylliant cymdeithas ac economi Cymru am ddegawdau i ddod."

Bydd y Brifysgol yn ymrwymo swm cychwynnol o £500,000 i academi newydd o'r enw Academi Treftadaeth Cymru.

Pwrpas yr academi hon fydd hyrwyddo iaith, treftadaeth a diwylliant Cymru gan gyd-fynd gyda'r gwaith mae'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Geiriadur Prifysgol Cymru yn ei wneud.

Neuadd Gregynog

Yn ogystal bydd £500,000 yn cael ei roi i Wasg Prifysgol Cymru er mwyn ei galluogi i ddatblygu ystod ei gwaith gan roi pwyslais ar foderneiddio drwy gyhoeddi mewn ffurf digidol.

Bydd corff newydd arall yn cael ei sefydlu maes o law er mwyn diogelu Neuadd Gregynog wrth i'r brifysgol geisio gwarchod sefydliad hanesyddol Gwasg Gregynog.

Sefydlwyd y wasg gan Gwendoline a Margaret Davies ac mae wedi derbyn clod am gynhyrchu cyfrolau prin o ansawdd uchel.

Yr Ymddiriedolaeth fydd hefyd yn gyfrifol am y tir a ddelid gan Gomisiynwyr Cymru i Brifysgol Cymru yn dilyn Deddf Eglwys Cymru 1914.

Mae Prifysgol Cymru yn credu y dylid gwerthu'r tir sy'n weddill ond yr ymddiriedolaeth newydd fydd yn gyfrifol amdano yn y cyfamser.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol