Sut all celfyddyd helpu cleifion?
- Cyhoeddwyd

Fe ddylai colegau Cymru wneud ymdrech arbennig i baratoi myfyrwyr cerdd ar gyfer gyrfaoedd mewn therapi cerdd.
Dyna farn Dr Gwawr Ifan, o Brifysgol Bangor, sydd wedi bod yn edrych ar werth cerddoriaeth mewn iechyd a lles.
Roedd yn siarad yn Y Pagoda ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych mewn un o nifer o ddigwyddiadau yn y Brifwyl hon yn ymwneud ag iechyd meddwl.
Yn ddarlithydd yn Ysgol Gerdd y brifysgol, Dr Ifan a wahoddwyd i draddodi Darlith Tŷ Cerdd eleni a dywedodd y gallai cerddoriaeth fod yn llesol i gleifion, yr henoed a rhai sy'n dioddef o ddementia, er enghraifft.
Gan ddweud bod gan gerddorion proffesiynol "rôl" i'w chwarae yng ngofal henoed, dywedodd ei bod yn ddyletswydd ar golegau i baratoi myfyrwyr cerdd y dyfodol ar gyfer "y rôl bwysig hon".
Canu corawl
Cyfeiriodd at sawl astudiaeth sy'n profi effeithiau cadarnhaol cerddoriaeth ar gleifion a phreswyliaid mewn cartrefi henoed ac o fewn y gymdeithas yn ehangach.
"Mae llawer o waith ymchwil wedi ei wneud sy'n pwysleisio effaith gadarnhaol canu corawl ar iechyd a lles," meddai.
Yn wir, dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru oedd pwnc ei doethuriaeth hi yn 2012.
"Yn ôl canlyniadau a gafwyd, gwelir fod canu corawl amatur yn amlwg o fudd mawr i aelodau hŷn cymdeithas," meddai.
A hynny nid yn unig ar sail gwrando ar gerddoriaeth, ond ar sail cymryd rhan hefyd gan fod hynny yn helpu aelodau o gorau ac ati i osgoi unigrwydd tra'n creu bywiogrwydd emosiynol ac ychwanegu at bwrpas a llenwi bwlch mewn bywyd.
"Mae'r rhain oll yn ffactorau a all gyfrannu at osgoi gwaeledd iechyd, yn arbennig iselder," meddai.
Miliwn erbyn 2021
Mae disgwyl y bydd miliwn o bobl yn byw gyda dementia ym Mhrydain erbyn 2021, neges Dr Ifan oedd bod yn rhaid paratoi ar gyfer hynny.
"Mae heneiddio'n iach yn ystyriaeth ganolog i bolisïau iechyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol," meddai.
A dyna lle mae effaith lesol celfyddyd a cherddoriaeth yn dod i mewn.
Rhoddodd gryn sylw i'r hyn sy'n digwydd mewn cartrefi preswyl, gan ddweud ei bod yn ffaith anffodus mai'r rhai sydd fwyaf annhebygol o gael "profiadau celfyddydol byw" yw'r bobl hynny sy'n byw ynddynt.
"Dengys ymchwil fod iselder yn broblem amlwg ymhlith preswylwyr cartrefi henoed. Y prif resymau am hyn yw dirywiad bywyd cymdeithasol a'r gallu i fyw yn annibynnol," meddai.
"Yn sgil hyn mae galw cynyddol am fwy o ddulliau gwahanol o godi safon byw mewn cartrefi henoed," ychwanegodd.
Canu anffurfiol
Ymhlith y dulliau hynny y mae defnyddio cerddoriaeth, a chyfeiriodd at sawl tystiolaeth ymchwil sy'n cadarnhau pa mor llesol y gall cerddoriaeth fod.
Rhoddodd sylw manwl i waith gan Brifysgol Bangor ei hun, gan gyfeirio at enghreifftiau penodol.
"Canfuwyd fod aelodau o'r henoed sy'n cymryd rhan mewn sesiynau canu anffurfiol…yn llai tebygol o ddioddef o iselder ysbryd a gofid meddwl," esboniodd.
Profwyd hefyd fod cleifion sy'n gwrando ar gerddoriaeth o'u dewis eu hunain yn cael "teimladau cadarnhaol".
Bu'n fodd hefyd i'w perswadio i ymgymryd â gweithgareddau eraill llesol.
Gyda'r achos wedi ei brofi, fel petai, dywedodd bod yn awr ddyletswydd ar golegau i ddarparu pobl all gyflawni'r gwaith pwysig hwn.
"Yn sgil hyn," meddai, "mae angen datblygu mwy o gerddorion proffesiynol sydd â'r gallu i gynnig arlwy o'r fath yn rheolaidd."
Paratoi myfyrwyr
Ychwanegodd, "Nid gwneud astudiaethau ymchwil yn unig yw gwaith adran gerddoriaeth mewn prifysgol, ond paratoi myfyrwyr a cherddorion ifanc ar gyfer yr hyn sy'n debygol o ddod i'w rhan yn eu proffesiwn, ac mae angen paratoad penodol a nodweddion personol neilltuol ar gerddorion sy'n ymwneud â gwaith o'r fath."
Dywedodd fod hyn yn rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i'r Ysgol Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, gyda chanlyniadau addawol i brosiectau gyda cherddor mewn cartref preswyl.
Pwysleisiodd hefyd ei bod yr un mor bwysig astudio'r effaith ar y cerddorion eu hunain yn ogystal ag r breswylwyr a'r sgiliau y mae'n rhaid i'r cerddorion eu cael i gyflawni'r gwaith.
Ac ni ddylid ychwaith anghofio staff y cartrefi.
"Yn ogystal ag ystyried ymateb y cerddor i'r preswyliaid, yr oedd ymateb y staff yn allweddol bwysig i lwyddiant y prosiect hwn," meddai.
Yn un achos bu i gerddoriaeth "atgoffa aelodau o staff am yr unigolyn sydd y tu ôl i'r preswylydd oedrannus," medd yn y ddarlith, "Can di Bennill Fwyn i'th Nain" a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ei chyfanrwydd ar wefan Tŷ Cerdd wedi'r Eisteddfod.
Awgrymwyd hefyd fod cerddoriaeth yn gyfrwng effeithiol i bontio rhwng yr ifanc a'r hen.
Wrth gloi ei darlith yr oedd galwad y Dr Ifan ar ein harweinwyr i ystyried posibiliadau celfyddyd gyda'r henoed yn y gymdeithas ac yng nghorneli cudd cartrefi preswyl yn un daer.