Beiciwr: Mwy o amser i holi pedwar
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi arestio pedwar o bobl ar amheuaeth o lofruddiaeth
Mae'r heddlu wedi cael mwy o amser i holi pedwar gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio beiciwr 63 oed.
Bu farw John Reeder o Bont-y-pŵl yn Stryd George, Pontnewynydd, Torfaen, fore Mercher.
Aed ag ef i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw oherwydd anafiadau difrifol i'w ben.
Cafodd tri dyn 18, 19 a 23 oed ac un fenyw 19 oed eu harestio.
Mae ditectifs yn gofyn i unrhyw un a welodd Mr Reeder ar gefn beic i gysylltu â nhw ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol