Lansio ap i weithwyr iechyd
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Abertawe wedi llunio ap i helpu gweithwyr iechyd i ddefnyddio'r Gymraeg er mwyn cyfathrebu gyda chleifion.
Y gyflwynwraig Nia Parry sy'n lleisio Ap Gofalu sy'n cynnwys termau meddygol yn y maes iechyd.
Roedd lansiad ar Faes yr Eisteddfod fore Gwener.
'Poblogaidd'
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd wedi rhoi'r nawdd i ddatblygu'r ap sydd wedi ei seilio ar waith Angharad Jones o Goleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol yn 2011.
Dywedodd hi fod galw wedi bod am lyfryn deugain tudalen.
"Mae'r llyfryn poced wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r myfyrwyr, gan roi hyder i nifer ohonyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â'r cyhoedd.
"Trwy roi'r llyfryn ar ffurf electronig gyfleus, rwy'n mawr obeithio y bydd yn annog mwy i siarad yr iaith yn y gweithle."
'Hyder'
Dywedodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg: ''Rwy'n falch iawn fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyllido'r prosiect hwn.
"Mae'n hollbwysig fod gan weithwyr iechyd yr hyder i ddelio gyda chleifion yn Gymraeg er mwyn rhoi'r gofal gorau posib ac felly mae datblygiadau arloesol fel hyn sy'n cynyddu hyder myfyrwyr a gweithwyr y dyfodol i ddefnyddio'r Gymraeg yn allweddol."
Eleni am y tro cyntaf bydd yr ap, sydd am ddim, yn cael ei ddefnyddio fel rhan o gwricwlwm gradd Nyrsio a Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Abertawe fel bod modd dangos i fyfyrwyr fod medru siarad gyda chleifion yn Gymraeg yn rhan bwysig o'r gwaith.