Cynghrair Europa: Yr Elyrch i wynebu tîm o Romania
- Cyhoeddwyd

Roedd Abertawe 4-0 ar y blaen yn erbyn Malmo wedi'r cymal cyntaf, ac roedd gêm ddi-sgôr nos Iau yn ddigon i sicrhau lle'r Elyrch yn y rowndiau nesaf
Bydd tîm pêl-droed Abertawe yn wynebu Petrolul Ploiesti nesaf er mwyn ceisio cyrraedd y grwpiau yng nghynghrair Europa.
Bydd yr Elyrch yn croesawu'r tîm o Romania i'r Liberty ar Awst 22, gyda'r ail gymal wythnos yn ddiweddarach ar Awst 29.
Mae tîm Michael Laudrup wedi cyrraedd y pwynt yma yn y gystadleuaeth ar ôl maeddu Malmö o Sweden 4-0 dros ddau gymal.
Yn ôl gwefan Abertawe, enillodd Ploiesti gwpan Romania'r tymor diwethaf, ac fe ddaethon nhw'n drydydd yn eu cynghrair nhw.
Straeon perthnasol
- 8 Awst 2013