Achubiaeth i'r Barri yn yr Uchel Lys
- Cyhoeddwyd

Mae barnwr wedi dyfarnu o blaid clwb pêl-droed Y Barri yn eu hachos yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Penderfynodd y barnwr bod yr FAW wedi ymddwyn yn anghyfreithlon drwy wahardd Y Barri rhag chwarae yng Nghynghrair Cymru.
Dywedodd y barnwr bod y penderfyniad yn "ddiffygiol" ac yn "afresymol".
Bydd Cyngor yr FAW yn cynnal cyfarfod brys ddydd Mercher, a'r argymhelliad yw rhoi mynediad i'r Barri i drydedd adran y Gynghrair.
Clwb newydd
Roedd Y Barri wedi chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Cymru, ond cafodd y tîm ei ddiddymu ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Cafodd clwb newydd ei greu gan gefnogwyr, Barry Town United, ond penderfynodd yr FAW na fyddai'r tîm yn cael parhau i chwarae ar yr un lefel, gan olygu na fyddai'r Barri wedi bod yn rhan o gynghrair genedlaethol.
Mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys, dadleuodd tîm cyfreithiol Barry Town United, fod hawl ganddyn nhw i chwarae yn y cynghrair gan eu bod yn cwrdd â gofynion aelodaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Penderfynodd y Barnwr Llewelyn bod y modd yr oedd yr FAW wedi ymddwyn wedi bod yn anghyfreithlon.
Mewn datganiad, dywedodd yr FAW: "Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn derbyn y penderfyniad sydd wedi ei wneud yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd heddiw.
"Bydd y Gymdeithas yn gweithredu ar sail yr argymhellion sydd wedi eu gwneud. Bydd Cyngor yr FAW yn cwrdd ddydd Mercher
"Ni fydd y Gymdeithas yn gwneud unrhyw sylw pellach."
Dywedodd aelod cabinet dros chwaraeon a hamdden ar Gyngor Bro Morgannwg bod angen ymchwiliad.
"Ni ddylai'r achos wedi mynd i'r llys," meddai Gwyn John.
"Rydw i'n gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal archwiliad o reolaeth pêl-droed yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- 7 Awst 2013
- 14 Mehefin 2013