Wrecsam: 'Angen edrych ymlaen'
- Cyhoeddwyd

Mae Wrecsam yn dechrau'r tymor newydd yn Uwchgynghrair y Conference yn erbyn Welling ar y Cae Ras.
Ni enillodd y Dreigiau ddyrchafiad i'r Gynghrair Bêl-droed y tymor diwethaf wrth i Casnewydd eu curo yn rownd derfynol gemau'r ail gyfle.
Mae'n debyg y bydd y tim cartref heb yr ymosodwr Brett Ormerod oherwydd anaf i'w law ac ni fydd Jay Colbeck yn chwarae am chwe wythnos oherwydd llawdriniaeth ar ei benglin.
Bydd y rheolwr Andy Morell yn methu nifer o gemau wedi iddo gael llawdriniaeth ar fawd ei droed.
'Siom'
Dywedodd Dean Keates: "Mae'r siom wedi mynd, roedd o yng nghefn fy meddwl ond hanner ffordd drwy'r haf mi ddaethon ni yn ôl i'r clwb ac mae wedi mynd.
"Rydym ni'n gwneud digon o ymarfer rhedeg, sy'n clirio'r meddwl."
Mae'r dirprwy reolwr Billy Barr wedi dweud bod y clwb wedi paratoi yn drylwyr ac mae yntau wedi bod yn gwylio gwrthwynebwyr cyntaf Wrecsam.
'Dim pwynt'
Dywedodd Brett Ormerod: "Does dim pwynt edrych yn ôl.
"Does dim modd newid yr hyn sydd wedi digwydd ond mae'n bosib dylanwadu ar y dyfodol.
"Mae'n well peidio meddwl am y gorffennol, mae'n rhaid edrych ymlaen a dyna beth y byddwn yn ei wneud."
Wrecsam v Welling United, y gic gynta' am 3pm
Straeon perthnasol
- 5 Mai 2013
- 25 Mawrth 2013