Pryder am gau cartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
Woodfold
Disgrifiad o’r llun,
Bydd cartref Woodfold yn cau ym mis Medi ac mae rhai yn poeni nad oes digon o rybudd wedi ei roi

Bydd dau gartref gofal yng Nghonwy yn cau fis nesaf wrth i deuluoedd ddweud iddyn nhw gael 28 diwrnod o rybudd.

Cartrefi Woodfold yn Llandrillo yn Rhos a Thandderwen ym Mae Colwyn sy'n cau ar Fedi 2.

Mae rhai'n poeni nad oes digon o gartrefi gofal eraill ar gael allai ddelio gydag anghenion y preswylwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y cartrefi fod preswylwyr a'u teuluoedd wedi cael gwybod cyn gynted â phosib.

Ond mae teuluoedd preswylwyr wedi dweud eu bod wedi cael gwybod ddydd Llun.

'Yn ffiaidd'

Mae nifer yn poeni nad oes digon amser i ddod o hyd i ofal arall.

Mae cyfnither Robert Winchurch wedi bod yn byw yng nghartref Woodford ers dwy flynedd a hanner.

Dywedodd Mr Winchurch: "Mae'n ffiaidd. Maen nhw wedi rhoi 28 diwrnod o rybudd a dyna'r cyfan.

"Rydw i wedi cysylltu â 12 o gartrefi i geisio dod o hyd i le ... dim ond dau oedd yn bendant â lle.

"Diolch byth rydw i wedi cael lle iddi.

"Mae dwy ddynes yn Woodfold sydd yn 100 oed. Sut y gallen nhw ddelio gyda hyn?

'Anodd iawn'

"Rydw i hefyd yn teimlo dros y staff sy'n gorfod delio â'r newyddion eu bod yn colli eu swyddi."

Dywedodd llefarydd ar ran y cartrefi wrth BBC Cymru: "Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn oherwydd ein blaenoriaeth yw'r trigolion, eu teuluoedd a'r staff.

"Er gwaethaf ein hymdrechion dros gyfnod o 34 mis, mae wedi bod yn amhosib i wneud digon o elw i sicrhau dyfodol hir dymor i'r cartrefi.

"Doedd dim dewis ond cau'r ddau gartref."