'Mwy na digon' i blant yn y Brifwyl
- Cyhoeddwyd

"Gawn i ddŵad yn ôl i Steddfod Cyw fory?"
Dyletswydd dydd Iau yn Eisteddfod Dinbych oedd hebrwng wyres o gwmpas y Maes.
Waeth cyfaddef ddim, yr oedd rhywun braidd yn bryderus o hyd a lled y pleserau ar gyfer rhywun dan chwech oed ym Mhencadlys Diwylliant a Phwysigrwydd y Genedl gan ofni na fyddai yna fawr i'w diddori rhwng y peintiad wyneb cyntaf a'r trydydd hufen iâ.
A dim, mewn gwirionedd, fod Rhaglen y Dydd nag unrhyw daflen wybodaeth arall wedi tawelu'r ofnau hynny.
Ond, erbyn gweld, yr oedd gan y crochan diwylliant fwy na digon i'w gynnig, gyda Sioe Cyw ar ben y rhestr.
Roedd 'na sioe ym Mhabell S4C ddwywaith bob dydd, ambell ymddangosiad y tu allan i'r babell a sioe gyhoeddus arall ar y Llwyfan Perfformio ger y cafnau bwyd hefyd.
Ond yr un fewnol mewn theatr fach o fewn pabell y Sianel oedd yr un sy'n cyfrif.
'Fel aur'
"Maen nhw fel aur," meddai'r ddynes mewn crys T Calon Cenedl wrth rannu'r tocynnau ar gyfer y sioeau mewnol gyda rhai yno i gasglu tocynnau am 9:30yb rhag cael eu siomi.
Cyn hanner dydd yr oedd morgrugfa o gyffro disgwylgar yn ysu am fynediad.
Beth bynnag ddywed neb am S4C, y mae'r Sianel wedi cael gafael adictaidd bron ar y gynulleidfa ifanc hon gyda rhieni hefyd yn canmol y gwasanaeth o ran ei safon a'i fwynhad.
Pe gellid llunio'r un fformiwla ar gyfer oedolion byddai'r Sianel y tu hwnt o ddiogel.
"Mi wnes i fwynhau o gymaint â fo," meddai un fam, gan gyfeirio at ei mab teirblwydd oedd yn ei llusgo at silffiad o grysau T Dona Direidi.
Ond dim ond hanner awr mewn diwrnod a fyddai'n ymestyn am wyth awr oedd Sioe Cyw, ac fe fyddai'n rhaid wrth bethau eraill os am osgoi'r "Pa bryd da ni'n mynd . . ." anorfod sy'n dod gyda syrffed.
Y Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg
Felly dyma anelu at babell y Mudiad Meithrin am funud i feddwl nes taro, ar hap, ar y Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg lle'r oedd pob mathau o bethau i blant eu gwneud o greu modelau Lego, i liwio darnau o bapur, i brofi ansawdd dwr, creu sleim a chael gweld eich celloedd eich hun dan ficrosgop.
Ac ar y ffordd allan, y crochenydd Paul Lloyd yn cynnig gwasanaeth Raku - gleinio yn Gymraeg - lle gellir prynu potyn amrwd am £5, ei drin a'i roi mewn odyn am awr tra'r ydych yn gwneud pethau eraill.
"Mae'r plant wrth eu boddau efo'r mwg a'r stêm a gwres," meddai'r Dr Olwen Williams sy'n cynorthwyo ei phartner ar y safle. "Ac mae'r arian yn mynd at y Steddfod," ychwanegodd.
Martyn Geraint
Pabell arall annisgwyl o atyniadol oedd un Llywodraeth Cymru, gyda phoblogrwydd Martyn Geraint ymhlith plant yn rhywbeth i Garwyn a'i griw anelu ato ymhlith oedolion!
Beth bynnag wedi ymweld â Chadwyn Ffred Ffransis i brynu bag gwellt a llechen Tad Gorau'r Byd i fynd adre i dad gorau'r byd, chwilio a chwalu trwy silffoedd y Gweisg am lyfrau i'w darllen dros yr wythnosau nesaf, godro uwch yr NFU, cael llofnod Dona Direidi, Trystan a'i ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd tra'n chwarae Mam mewn tŷ bach plastig yng ngardd chwarae'r Mudiad Meithrin i gyfeiliant Dafydd Iwan o babell y Dysgwyr gerllaw, daeth y diwrnod i ben a ninnau wedi hen ganfod bod mwy na digon i blant i'w wneud mewn Prifwyl.
Ond fel y dywedodd Glyn Tomos - Sgrech gynt, Papur Dre rŵan - y digwyddais daro arno ar y maes - trueni na fyddai'r Eisteddfod yn trefnu bod gwybodaeth gryno ar gael am yr holl atyniadau hyn i blant a chyhoeddi taflen bwrpasol Steddfod i Blant.
Rhywbeth ar gyfer y flwyddyn nesaf efallai.