Cadair wag ond bar llawn
- Cyhoeddwyd

Ni chafwyd cadeirio yn yr Eisteddfod wedi i'r beirniaid benderfynu nad oedd digon o "chwysu" wedi bod dros y cerddi.
'Lleisiau' oedd y testun y flwyddyn hon ond distaw oedd y pafiliwn wrth i Myrddin ap Dafydd gyhoeddi na fu teilyngdod.
Mae perthynas Sir Ddinbych a'r Gadair yn un digon cymysg - hon yw'r drydedd Eisteddfod di-gadair yn y sir ond yma hefyd yr enillodd Alan Llwyd y dwbl (y Gadair a'r Goron) yn 1973 ac y cafwyd merch yn Brifardd am y tro cyntaf.
Ond ni chafodd yr Archdderwydd benywaidd cyntaf Christine James gymaint o lwc a gafodd Mererid Hopwood yn 2001.
Roedd hi'n ddiwrnod prysur ar y Maes gyda 23,056 yn cerdded drwy'r giatiau hyd at 5:30yh.
Roedd disgwyl i'r ffigwr terfynol fod yn llawer uwch, gyda miloedd wedi dod i wrando ar gig ola' Edward H. Dafis erioed.
Yn y Pafiliwn, yn y cyfamser, roedd 'na ragor o gystadlu nos Wener gyda gwledd o gystadlaethau corawl.
Mae uchafbwyntiau dydd Sadwrn yn cynnwys cystadleuaeth y Rhuban Glas a'r corau meibion.