Cynllun maes awyr yn y de-ddwyrain o dan y lach
- Cyhoeddwyd

Mae pennaeth Maes Awyr Bryste wedi beirniadu cynllun i godi maes awyr newydd ar gost o £5bn yn y de-ddwyrain.
Fel rhan o adolygiad mae cynnig i godi maes awyr rhwng Casnewydd a Chasgwent fyddai'n agor yn 2029 a lle y byddai 20m o deithwyr yn mynd bob blwyddyn.
Dywedodd Prif Weithredwr Maes Awyr Bryste Robert Sinclair: "Mae Comisiwn Meysydd awyr wedi derbyn sawl cynnig ar gyfer cynlluniau yn y Deyrnas Gyfun.
'Yn realistig'
"Ond dylai cynllun fod yn realistig ac nid yn sgil cau maes awyr preifat llwyddiannus sy'n cefnogi miloedd o swyddi.
"Yn 2003 dywedodd Papur Gwyn y byddai maes awyr newydd ger Môr Hafren yn ei chael hi'n anodd i fod yn ymarferol yn ariannol gan na fyddai'n denu digon o gwmnïau awyrennau."
Roedd y cynnig gwreiddiol ar gost o £2bn yn anelu at 30m o deithwyr y flwyddyn.
Mae'r un diweddara'n anelu at "wasanaethu'r farchnad am weddill y ganrif".
'Rhagdybiaeth ffug'
Fe fyddai ffyrdd cyswllt i'r M4 a rheilffordd yn cysylltu â'r lein rhwng Llundain a de Cymru.
Dywedodd Cadeirydd y Sefydlad Materion Cymreig Geraint Talfan Davies fod y cynnig gwreiddiol wedi ei wrthod ar sail "rhagdybiaeth ffug".
"Mae'r cynnig diweddara'n gyson ag amcanion ehangach Comisiwn y Meysydd Awyr ac yn tanlinellu y dylid ystried Cymru a de-orllewin Lloegr fel uned wrth ystyried dyfodol teithiau awyr.
'i raddau'
"... yn y pen draw, dim ond i raddau y gall meysydd awyr Caerdydd a Bryste ddatblygu."
Dywedodd Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd Jon Horne: "Bydd penderfyniad y comisiwn ar sail polisi Llywodraeth y Deyrnas Gyfun.
"Ein nod ni yn gwneud y gorau ar gyfer pobol Cymru.
"Yn sicr, fe all Maes Awyr Caerdydd gyflawni llawer mwy."
Straeon perthnasol
- 7 Gorffennaf 2013
- 10 Mehefin 2013
- 24 Mai 2013