Damwain car mewn rali yng Nglyn Nedd
- Cyhoeddwyd
Mae damwain car wedi bod mewn rali yng Nglyn Nedd yn sir Castell-nedd Port Talbot fore Sadwrn.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân fod y ddamwain ychydig cyn 10.45am yn Walters Arena ger Glyn Nedd adeg ras King of the Valleys.
Cafodd y gyrrwr ei dorri'n rhydd o'i gerbyd.
Does dim gwybodaeth eto am ei gyflwr.