Dau yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ger Cyffordd 33 ar M4
- Cyhoeddwyd
Mae dau yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng saith cerbyd ar yr M4.
Roedd y ddamwain ar y lôn ddwyreiniol rhwng Cyffordd 33 Capel Llanilltern a Chyffordd 34 Meisgyn.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân fod y ddamwain tua hanner dydd.
Cafodd un o'r ddau gafodd eu hanafu ei dorri'n rhydd o'i gar.
Cyrhaeddodd diffoddwyr o Bontyclun, Pontypridd ac Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.