Arestio dau wedi lladrad mewn siop ym Maesteg
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr ardal ei chau am gyfnod
Mae dau wedi eu harestio wedi lladrad mewn siop yn Stryd Fictoria, Maesteg.
Cafodd yr heddlu eu galw am 10.16am a dywedodd tystion iddyn nhw weld heddlu arfog.
"Hoffen ni ddiolch i drigolion y dre' oherwydd eu hamynedd a'u help," meddai llefarydd.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 01656 655555 estyniad 21240 neu 101, gan ddyfynnu 452.