Llywydd y Dydd Nic Parri: 'Dim angen i ni gyfiawnhau ein hunain'
- Cyhoeddwyd

Mae Llywydd Anrhydeddus y Brifwyl wedi dweud ei fod wedi cael digon ar bobl yn cwestiynu gwerth yr iaith Gymraeg.
Dywedodd Nic Parry wrth gynulleidfa yn yr Eisteddfod eu bod nhw'n treulio "llawer gormod o amser yn cyfiawnhau'r ffaith eu bod nhw'n Gymry Cymraeg".
Dylai brawddeg gyntaf adroddiad y tasglu sydd wrthi'n ystyried dyfodol y Brifwyl, meddai, nodi mai "gŵyl sydd wedi cael ei chreu i deithio" yw'r Eisteddfod Genedlaethol.
Ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod dywedodd fod cwestiynu gwerth economaidd a diwylliannol yr iaith drwy'r amser yn gwneud drwg i'r iaith a'i siaradwyr.
'Cymylau'
"Mae'r cymylau o amheuaeth yn crynhoi yn barhaol," meddai.
"Rydych chi gyd wedi gweithio'n rhy galed i adael i hyn ddigwydd.
"Peidiwch â gadael i bobl eraill eich beirniadu chi fel Cymry Cymraeg."
Dywedodd hefyd fod angen i siaradwyr Cymraeg fod yn "falch o'u hunain" a diolchodd am y gwaith caled oedd wedi gwneud yr ŵyl yn llwyddiant.