Wrecsam 2-1 Welling
- Cyhoeddwyd

Wrecsam 2-1 Welling
Yn Uwchgynghrair y Gyngres yr eilydd Rob Ogleby gyda'i gyffyrddiad cynta' sicrhaodd fuddugoliaeth i Wrecsam yn erbyn Welling United ar y Cae Ras.
Aeth Wrecsam ar y blaen pan sgoriodd Joe Clarke â'i droed dde ar ôl ychydig dros chwarter awr.
Bum munud ar hugain yn ddiweddarach tarodd Joe Healy yn ôl i'r ymwelwyr.
Ogleby setlodd y mater yn yr ail hanner, ergyd rymus wyth munud cyn y diwedd.
Dywedodd y rheolwr Andy Morell: "Roedd yr hanner cynta'n anodd a'r sefyllfa'n well yn yr ail.
"Mi ildion ni ormod o giciau rhydd ond chwarae teg i Rob (Ogleby), os yw'r bêl ganddo, mae'n bygwth."
Northampton 3-1 Casnewydd
Yn Ail Adran y Gynghrair stori arall oedd hi i Gasnewydd.
Aeth Northampton ar y blaen pan beniodd Jacob Blyth ar ôl 25 munud.
Funud yn ddiweddarach sgoriodd Roy O'Donovan. 2-0.
Yn yr ail hanner rhwtodd Gary Deegan halen yn y briw pan gafodd Northampton gôl arall.
Ddwy funud cyn y diwedd sgoriodd Conor Washington i'r Cymry.
Dywedodd rheolwr Casnewydd Justin Edinburgh: "Yn fy marn i, doedd y sgôr ddim yn adlewyrchu'r gêm.
"Roedd ein perfformiad yn dda a Northampton ar y dro'd ôl am gyfnodau hir.
"Ond roedd eu golgeidwad yn wych. Yn wir, fe oedd chwaraewr y gêm."
Straeon perthnasol
- 13 Ebrill 2013
- 25 Mawrth 2013
- 24 Mawrth 2013
- 24 Ionawr 2013
- 19 Mawrth 2013