Saethu Casnewydd: heddlu'n dod o hyd i ddrylliau
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu, sy'n ymchwilio wedi i fenyw 46 oed gael ei saethu'n farw, wedi dod o hyd i dri dryll ei gŵr sy' wedi gwahanu.
Yn y cyfamser, mae ei gŵr 49 oed Christopher Parry mewn cyflwr difrifol iawn ond sefydlog yn yr ysbyty wedi'r saethu yng Nghasnewydd ddydd Iau.
Cafodd plismyn arfog eu galw i Seabreeze Avenue oddi ar Stryd Willenhall am 8.45 fore Iau.
Dywedodd yr heddlu fod Mr Parry yn meddu ar y drylliau'n gyfreithiol mewn tŷ yng Nghwmbrân.
Deellir fod Mrs Parry yn ddiweddar wedi symud o Groesyceiliog, Cwmbrân, i Gasnewydd.
Mae'r achos wedi ei gyfeirio i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
'Mewn perthynas'
Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw'r fenyw.
Dywedodd y Prif Arolygydd Huw Nicholas: "Roedd y ddau mewn perthynas o'r blaen a hyn wedi dod i sylw'r heddlu.
"Am y rheswm hwn rydym ni wedi cyfeirio'r mater i'r comisiwn."
Dywedodd yr IPCC: "Mae'r cyfeirio'n ymwneud â chyswllt rhwng yr heddlu a'r cwpl cyn y digwyddiad.
"Ond mae yna ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr heddlu i'r saethu a dyna yw'r flaenoriaeth ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- 9 Awst 2013