Malky Mackay yn gobeithio denu mwy o chwaraewyr
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Caerdydd wedi dweud ei fod yn gobeithio denu mwy o chwaraewyr i'r clwb cyn bod y cyfnod trosglwyddo yn dod i ben.
Mae'r clwb pêl-droed newydd arwyddo Gary Medel o Sevilla i'r tîm. Dyma'r pumed chwaraewr sydd wedi dweud ei fod yn symud i Gaerdydd yn ddiweddar.
Yn ôl Malky Mackay fe fydd yna fwy o newidiadau os yw'r chwaraewyr iawn ar gael:
"Rydyn ni yn dal i edrych ac yn trio ond dim ond ar gyfer chwaraewyr dw i'n teimlo bydd yn gwella'r grŵp.
"Fel pawb arall, gyda thair wythnos i fynd o ran trosglwyddo chwaraewyr, rydyn ni yn edrych i weld a allith unrhyw un wella ein carfan.
"Mae gyda ni nifer o heyrn yn y tân ar y foment ac maen nhw i gyd yn symud ymlaen ar lefelau gwahanol.
"Pe byddai modd i ni gael o leia' ddau arall, yna byddai hynny yn helpu."
£11m
Mae Gary Medel sydd yn dod o Chile wedi cael cytundeb pedair blynedd gyda'r tîm ar yr amod ei fod yn cael caniatâd gweithio ym Mhrydain. Dywed rhai adroddiadau bod y cytundeb werth £11 miliwn.
Roedd y dyn 26 oed yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Athletic Bilbao ddydd Sadwrn pan gurodd Caerdydd o ddau gol i un.
Ddydd Sadwrn nesaf mi fyddan nhw'n dechrau'r tymor newydd yn yr uwch-gynghrair a hynny yn West Ham.
Straeon perthnasol
- 11 Awst 2013
- 1 Gorffennaf 2013
- 26 Gorffennaf 2013