Damwain beic modur: cyhoeddi enw dyn fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn a gafodd ei ladd yn dilyn damwain ar yr A494 yn agos i Wyddelwern wedi cael ei enwi fel Daniel Mark Williams.
Roedd yn 23 oed ac yn dod o Rhuthun.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ar y ffordd rhwng Gwyddelwern a Bryn Saith Marchog.
Mae swyddogion yr heddlu yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd.
Gellir cysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 a gofyn i siarad gyda PC 447 Threlfall yn yr uned heddlu ffyrdd yn Llanelwy.
Straeon perthnasol
- 11 Awst 2013