Pôl: 51% am ddatganoli budd-daliadau

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Comisiwn Silk yn adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru

Mae pôl newydd yn awgrymu bod dros hanner pobl Cymru yn teimlo y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol reoli budd-daliadau.

Comisiwn Silk, sy'n ystyried a ddylid datganoli rhagor o bwerau i Gymru, a gomisiynodd yr arolwg.

Roedd 51% o'r rhai a holwyd yn teimlo y dylai'r cyfrifoldeb dros fudd-daliadau gael ei ddatganoli o San Steffan i'r Cynulliad.

Dywedodd 46% y dylai San Steffan barhau'n gyfrifol, gyda 3% yn ansicr ar y mater.

Roedd 70% yn teimlo y dylid datganoli pwerau dros ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ffermydd gwynt mawr, ac roedd 63% am weld y cyfrifoldeb dros blismona yn cael ei drosglwyddo i Gaerdydd.

Ond, er bod mwyafrif clir am gadw pwerau dros iechyd ac addysg, dywedodd dros chwarter y byddai'n well ganddyn nhw pe bai Llywodraeth y DU yn rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac roedd 20% am weld pwerau dros addysg yn dychwelyd i San Steffan.

Roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu bod pobl yn fwy bodlon gyda'r ffordd y mae'r Cynulliad yn cyflawni ei waith na'r ffordd y mae Senedd y DU yn gwneud hynny.

Rhoddodd y rhai a holwyd 5.6 allan o 10 i'r Cynulliad ar gyfartaledd, o'i gymharu â 4.3 allan o 10 ar gyfer Senedd y DU.

Roedd 62% o'r rhai a holwyd am weld y Cynulliad yn cael mwy o bwerau, gan gynnwys y 9% a oedd yn ffafrio annibyniaeth, o'i gymharu â'r 25% a ffafriai'r trefniant presennol.

Ond roedd mwyafrif (rhyw ddwy ran o dair) o'r rhain eisiau'r pwerau ychwanegol yn ystod y pum mlynedd nesaf, neu wedi hynny, yn hytrach nag o fewn rhyw flwyddyn.

'Diddorol iawn'

Dywedodd cadeirydd y comisiwn, Paul Silk:

"Mae'r canlyniadau hyn yn ddiddorol iawn ac yn rhoi cipolwg gwirioneddol ar farn y cyhoedd ar bwerau presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Mae'r canlyniadau yn gyffredinol yn gyson â thueddiadau a nodwyd mewn arolygon eraill.

"Ond er eu bod yn dangos cynnydd parhaus mewn cefnogaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel sefydliad ac o ran y ffaith y dylai gael rhagor o bwerau, mae angen i ni gofio bod gan bobl Cymru safbwyntiau gwahanol."

"...Mae ein Cylch Gorchwyl yn glir bod yn rhaid i'n hargymhellion gael cryn dipyn o gefnogaeth gyhoeddus.

"Mae'r arolwg hwn yn ffordd bwysig o'n helpu i asesu barn y cyhoedd ar Ddatganoli yng Nghymru ac agweddau ar bwy ddylai fod yn gyfrifol am y pwerau hynny.

"Gobeithio y bydd canfyddiadau'r arolwg yn ysgogi trafodaeth eang ar y materion pwysig hyn.

"Rydyn ni am glywed cynifer o safbwyntiau â phosibl o hyd, waeth beth ydyn nhw - rydyn ni'n dal i fod yn awyddus i wrando.

"Rydyn ni'n casglu tystiolaeth tan 27 Medi felly cofiwch rannu eich safbwyntiau a'n helpu i lywio dyfodol Cymru".

Deddf?

Wrth ymateb i arolwg barn Comisiwn Silk ar ddatganoli, dywedodd AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards:

"Dengys yr ymchwil fod gan bobl Cymru lawer mwy o ffydd yn y Cynulliad Cenedlaethol nac yn senedd y DU, a bod mwyafrif llethol am weld datganoli mwy o bwerau i Gymru.

"Mae'r canlyniadau yn adleisio buddugoliaeth hanesyddol refferendwm 2011.

"Mae mwyafrif clir yn cefnogi datganoli polisi ynni, plismona a darlledu. Mae hyn yn dangos y llwybr yn glir at y pwerau y dylid eu datganoli i Gymru.

"Dylai llywodraeth y DU gyflwyno Deddf Llywodraeth Cymru newydd yn ystod oes y senedd hon i ddeddfu ar ganfyddiadau Comisiwn Silk, oedd yn gomisiwn a sefydlwyd ganddynt hwy."

Cynhaliodd Beaufort Research gyfweliadau â sampl gynrychioliadol o 2,009 o boblogaeth Cymru sy'n 16 oed a throsodd rhwng 21 Mai a 12 Mehefin 2013.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol