Halifax 3-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed WrecsamFfynhonnell y llun, Other

Halifax 3-2 Wrecsam

Oherwydd damwain ar ffordd yr M62, bu'n rhaid gohirio'r gic gyntaf am dros chwarter awr yn Halifax, ond mae'n debyg y byddai'n well gan Wrecsam pe na bai'r gêm wedi cael ei chwarae o gwbl.

Dechreuodd pethau'n dda, ac fe aeth Wrecsam ar y blaen wedi 22 pan roddodd Simon Ainge y bêl i mewn i'w rwyd ei hun.

Roedd nifer o sylwebyddion yn credu bod Wrecsam wedi bod yn ffodus i guro Welling United dros y penwythnos, ac roedd elfen o lwc o blaid yr ymwelwyr.

Cyn y gôl roedd Joslain Mayebi eisoes wedi gorfod gwneud dau arbediad, ac yna wedi 32 munud fe darodd Josh Wilson y trawst gyda chic rydd nerthol.

O fewn dau funud i hynny roedd y tîm cartref yn gyfartal. Wilson greodd y cyfle'r tro hwn, a Lois Maynard oedd wrth law i benio'r bêl i'r rhwyd.

Wedi 40 munud aeth pethau o ddrwg i waeth. Rhoddodd y dyfarnwr gic o'r smotyn i Halifax yn dilyn trosedd yn y cwrt gan Stephen Wright ac fe gamodd Josh Wilson ymlaen i rwydo heibio Mayebi.

Halen ar y briw oedd y cerdyn coch i Wright am drosedd broffesiynnol, a cherdyn melyn i Mayebi am ddadlau gyda'r penderfyniad.

Roedd y gêm drosodd i bob pwrpas cyn yr egwyl, gan i Lee Gregory sgorio trydedd i Halifax wedi 45 munud - 3-1 yn erbyn deg dyn Wrecsam.

Roedd yr ail gyfnod yn llawer distawach o safbwynt digwyddiadau. Bu'n rhaid i Mayebi wneud ambell arbediad, ac fe gafodd Wrecsam un neu ddau o ergydion heb fygwth go iawn.

Ond yna gyda deng munud yn weddill fe rwydodd Adrian Cieslewicz gyda'i droed dde i roi gobaith am bwynt annhebygol i Wrecsam.

Cafodd Cieslewicz ergyd arall cyn y diwedd, a Wrecsam oedd yn pwyso wrth i'r gêm dynnu tua'i therfyn, ond llwyddodd Halifax i ddal eu gafael ar y fantais, a'r triphwynt.

Fe fydd y canlyniad yn siom, ond fe fydd colli Wright oherwydd gwaharddiad yn ergyd drom mewn cyfnod lle mae gan y clwb gymaint o anafiadau.