Priodi dair wythnos ar ôl canfod tiwmor
- Cyhoeddwyd

Ddydd Sadwrn fe briododd merch sy'n gweithio yn Wrecsam llai na thair wythnos wedi iddi ganfod tiwmor ar ei chalon ei hun, a hynny yn dilyn llawdriniaeth lwyddiannus.
Roedd Amy Sherwood, sy'n gweithio fel eco-cardiograffydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn gwneud gwaith hyfforddi arferol gyda chydweithiwr pan welodd bod ei sgan ei hun yn dangos tiwmor yn ei chalon.
Sylweddolodd yn syth bod y cyflwr - atrial myxoma - yn un difrifol, ac fe gafodd ei chyfeirio ar Ysbyty Calon Lerpwl.
Yno fe gafodd lawdriniaeth arloesol i gywiro'r cyflwr mewn pryd iddi hi briodi.
Dywedodd Amy, 33 oed o Tattenhall yn Sir Gaer: "Er fy mod wedi bod yn gwneud eco-cardiograff ar gleifion ers blynyddoedd, nes i erioed ddychmygu y byddwn yn canfod problem gyda fy nghalon fy hun, yn enwedig mor agos at fy mhriodas.
"Diwrnod neu ddau ar ôl canfod y cysgod, roeddwn i yn y theatr ac fe wnaeth y llawfeddygon gyflawni'r driniaeth twll clo er mwyn tynnu'r tiwmor."
Mae Amy yn un o nifer fach o gleifion yn y DU sydd wedi cael llawdriniaeth o'r fath, ac roedd hynny'n un o'r prif resymau pam y cafodd wellhad mewn pryd i'w diwrnod mawr.
Dywedodd Paul Modi, ymgynghorydd llawdriniaeth y galon yn Ysbyty Calon Lerpwl: "Y dull traddodiadol o dynnu unrhyw diwmor o'r fath yw agor y frest yn llwyr ac mae hynny'n golygu cyfnod o wella o dri mis.
"Ond mae'r dechneg newydd yn golygu un toriad bach yn y frest ac yna'r defnydd o gamera i lywio'r driniaeth."
Priododd Amy gyda'i dyweddi Simon yn Eglwys St Alban's yn Tattenhall ddydd Sadwrn gan ddiolch i'r tîm. Ychwanegodd:
"Dwi mor ddiolchgar am safon y gofal a'r driniaeth a gefais gan Mr Modi. Does dim modd y byddwn i wedi gwella mewn pryd pe bawn i wedi cael y driniaeth draddodiadol.
"Diolch i'r tîm i gyd am wneud y diwrnod yn fwy arbennig fyth."