Canfod corff dynes ar goll
- Cyhoeddwyd
Cafodd corff menyw ei ganfod ar draeth ar Lannau Mersi ddydd Mawrth ac mae'r heddlu wedi cadarnhau mai corff menyw o Landudno ydoedd.
Daethpwyd o hyd i'r corff fore Mawrth ar draeth Formby yn Sefton.
Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Glannau Mersi ac archwiliad post mortem, cadarnhawyd mai corff Anne-Marie Sarjantson ydoedd.
Doedd neb wedi gweld y fenyw 29 oed ers iddi adael ei chartref ar Awst 3.
Nid yw'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus, ac mae'r crwner wedi ei hysbysu.
Straeon perthnasol
- 4 Awst 2013