Cymru dan-21 1-5 Y Ffindir dan-21
- Cyhoeddwyd

Cymru dan-21 1-5 Y Ffindir dan-21
Chwalfa gafodd tîm pêl-droed dan-21 Cymru yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Ewrop.
Fe gafodd Cymru'r dechrau gwaethaf posib yn Stadiwm Nantporth ym Mangor.
O fewn saith munud roedd y Ffindir ar y blaen diolch i Kastriot Kastrati, ac roedd mantais yr ymwelwyr yn 2-0 wedi dim ond 11 munud wrth i Tim Vayrynen rwydo'r ail.
Vayrynen oedd ar y marc eto wedi hanner awr. Dwy iddo yntau yn y gêm a thair i'r Ffindir, ac roedd gobeithion y Cymry ifanc am record gant y cant yn y grwp yn deilchion.
Ond os oedd Cymru'n gobeithio y byddai'r Ffindir yn tynnu eu troed oddi ar y sbardun, doedd hynny ddim i fod.
Wedi 39 munud fe ychwanegodd Moshtagh Yaghoubi y bedwaredd gôl i'r ymwelwyr, ac roedd hi'n bygwth mynd yn chwalfa go iawn cyn yr egwyl hyd yn oed.
Dechreuodd yr ail hanner yn well i Gymru. Daeth cic o'r smotyn i'r tîm cartref wedi dim ond dau funud o'r ail gyfnod.
Emyr Huws o glwb Manchester City gamodd ymlaen i rwydo o'r smotyn a'i gwneud yn 1-4.
Ond cyn pen awr o chwarae, roedd y Ffindir wedi sgorio eto gyda Vayrynen yn sicrhau ei hat-tric gyda phumed ei dîm.
Yn ffodus i Gymru efallai, doedd dim mwy o sgorio.
Mae'r canlyniad yn ergyd sylweddol i obeithion Cymru o gyrraedd y rowndiau terfynol yn y Weriniaeth Siec yn 2015.
Dwy gêm oddi cartref fydd nesaf i dîm Geraint Williams - San Marino ar Fedi 6 a Moldova ar Fedi 10 - ac mae sicrhau chwe phwynt o'r ddwy gêm yna bellach yn hanfodol.
Straeon perthnasol
- 14 Awst 2013